Manon Lescaut Puccini
Archived: 2013/2014Trosolwg
Os ydych yn mwynhau La bohème, Madam Butterfly a Tosca byddwch am weld llwyddiant cychwynnol Puccini a’i opera fawr gyntaf.
Mae Manon wedi cael ei hudo ar gyfeiliorn. Yn ferch ifanc deimladwy, roedd hi eisiau’r cyfan. Roedd hi eisiau blasu ffrwyth llawn temtasiwn byd yr oedolyn. Ond yn awr, fisoedd yn unig yn ddiweddarach, mae hi wedi canfod fod y ffrwyth yn bwdr i’w graidd. A oes gan Manon unrhyw obaith o iachawdwriaeth?
Manon Lescaut yw’r Ferch Colledig glasurol. Mae Puccini’n dilyn hynt ei chwymp cyflym o’r diniwed i’r troseddol gydag angerdd gwyllt. Os ydych yn mwynhau La bohème, Madam Butterfly a Tosca byddwch am weld llwyddiant cychwynnol Puccini a’i opera fawr gyntaf. Drwy osod ei gynhyrchiad yn y presennol, mewn byd yr ydym i gyd yn ei adnabod, mae cynhyrchiad Mariusz Trelinski yn dod â’r stori gyffrous hon o obsesiwn a hunan ddinistr yn fyw o flaen ein llygaid.
Defnyddiol i wybod
Nodwch fod delweddau yn fflachio ar sgriniau digidol trwy gydol y cynhyrchiad. Does dim effaith strobio.
Synopsis
Act Un
Matrics
Un gyda’r nos mewn dinas fawr, ar ddiwedd diwrnod gwaith. Mae Des
Grieux wedi’i ddal mewn matrics o drefn ddyddiol reolaidd ac yn hiraethu
am gariad fel ffordd o ddianc. Mae merch yn ymddangos o blith y dorf. Mae Manon gyda’i brawd, Lescaut, a dyn hyˆn, y gwˆr creulon a grymus, Geronte. Mae Des Grieux wedi ei swyno. Mae Lescaut yn gweld ei chwaer fel carden fargeinio, ffordd o gael gafael ar arian. Mae’n trefnu ei bod hi ar gael i Geronte. Penderfyna Des Grieux a Manon ddianc gyda’i gilydd, gan gythruddo Geronte yn fawr. Mae Lescaut yn ei sicrhau y bydd hi’n rhwydd dod o hyd iddi – nad yw hi’n gallu byw yn bell o foethusrwydd.
Act Dau
Grym Mae Manon wedi dewis bywyd cyhoeddus afradlon gyda Geronte. Mae hi’n gweld eisiau Des Grieux, sy’n ceisio dod o hyd i ddigon o arian i’w hennill hi yn ôl. Mewn parti iddi, wedi’i hamgylchynu gan edmygwyr chwantus, mae syrffed ar Manon. Pan fydd Des Grieux yn ymddangos, mae hi’n llwyddo i dawelu ei ddicter ac nid yw e’n gallu ei gwrthsefyll. Daw Geronte ar draws y ddau ohonynt ac mae Manon yn ei wawdio. Mae Des Grieux yn crefu arni i fynd i ffwrdd gydag ef unwaith eto ond mae hi’n petruso, yn anfodlon cefnu ar yr holl foethusrwydd. Mae Lescaut yn ei rhybuddio i frysio ond mae’n rhy ddiweddar. Mae Geronte yn cyhuddo Manon o ddwyn ac mae’n cael ei harestio.
Egwyl
Act Tri
Cwymp Mae Manon yn y carchar ac mae Des Grieux yn ceisio ymweld â hi ond yn cael ei atal, er gwaethaf ymdrechion Lescaut. Ynghyd â menywod eraill sydd wedi’u bychanu a’u hiselhau, mae Manon i gael ei halltudio.
Act Pedwar
Rhwng dau fyd Rywle rhwng cwsg a marwolaeth, rhithdyb a realiti, mae’r freuddwyd am Manon yn dadfeilio. Mae Des Grieux yn gweddïo am gymorth gan Dduw y bu iddo droi oddi wrtho yn fachgen ond mae Manon, sy’n chwennych ac sy’n cael ei chwenychu mewn modd na ellir ei ddiwallu, allan o’i afael.