Maria Stuarda Donizetti
Archived: 2013/2014Trosolwg
Beth fyddai wedi digwydd petai Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban wedi dod wyneb yn wyneb?
Mae opera afaelgar Donizetti yn eich cludo i Brydain sydd mewn rhyfel â hi ei hun ac sydd wedi’i goresgyn gan ansicrwydd ac ymryson.
Mae cynhyrchiad Rudolf Frey yn taflu goleuni ar y tebygrwydd trawiadol rhwng y ddwy arwres: Mari'r carcharor a’r Frenhines Elisabeth; dynes sydd wedi’i llyffetheirio gan ofynion y swydd.
Cefnogir gan brif rodd gan y ‘Swansong Project’
Cefnogir gan Gyfeillion WNO a Chymdeithas Idloes Owen WNO.
Ffeithiau
Supported by a lead gift from the Peter Moores Foundation's Swansong Project. Supported by WNO Friends and WNO Idloes Owen Society and WNO Bel Canto Syndicate.
Synopsis
Mae’r Llys yn disgwyl dyfodiad y Frenhines Elizabeth ac mae disgwyl iddi gyhoeddi ei phriodas â Dug Anjou. Mae Elizabeth yn datgelu ei bod hi dal heb benderfynu ynghylch uno gorseddau Lloegr a Ffrainc ai peidio gyda’r briodas hon, ond mae’n sicrhau ei Llys mai er lles y bobl y bydd hi’n gweithredu, a dim arall. O’r neilltu, mae’n cyfaddef ei chariad cyfrinachol tuag at Robert Dudley, Iarll Caerlŷr. Yna mae Talbot a’r gwŷr llys yn ymbil am drugaredd tuag at Mary Stuart, Brenhines y Sgotiaid, sydd wedi’i charcharu yn Fotheringhay, ond mae Elizabeth yn anfodlon tosturio, er bod Syr William Cecil yn ei chynghori i ddangos trugaredd.
Mae Iarll Caerlŷr yn cyrraedd ac mae Elizabeth yn gorchymyn ei fod yn mynd â’i modrwy i’r llysgennad Ffrengig fel arwydd dros dro ei bod yn derbyn y cynnig o briodas. Wedi cael ei brifo gan ei adwaith llugoer i’r newyddion hwn, mae’r Frenhines yn gadael. Mae Talbot yn dweud wrth Iarll Caerlŷr am gyfarfod gyda Mary ac yn rhoi portread ohoni iddo, ynghyd â llythyr yn ymbil am ei help. Mae Iarll Caerlŷr yn addo sicrhau rhyddid Mary. Pan mae Elizabeth yn dychwelyd, mae hi’n mynnu gweld y llythyr sydd yn ei law. Er ei bod yn flin iawn ynghylch dyheadau Mary i gipio coron Lloegr, ac er ei bod yn hynod genfigennus o hoffter Iarll Caerlŷr ohoni, yn amharod, mae’n cytuno i ymweld â hi.
Mae Mary a’i chyfaill, Hannah, yn cofio’n ôl am eu bywyd cynnar yn Ffrainc. O glywed sŵn yr Helfa Frenhinol, mae Mary’n sylweddoli bod Elizabeth yn dynesu. Mae Iarll Caerlŷr yn cyrraedd ac yn egluro mai dim ond esgus i Elizabeth ymweld â Mary yw’r Helfa, ac mae’n ei darbwyllo i fod yn wasaidd os yw’n gobeithio am drugaredd. Wrth i’r ddwy wraig gyfarfod am y tro cyntaf, mae’r naill a’r llall yn teimlo atgasedd ar unwaith tuag at ei gilydd. Mae Mary’n ymddwyn yn wylaidd ond mae Elizabeth yn ymateb drwy ei chyhuddo o frad, llofruddiaeth ac anlladrwydd. Mae Mary, sy’n methu goddef rhagor o wawd, yn cyhuddo Elizabeth o fod yn ferch anghyfreithlon i Anne Boleyn.
Mae Cecil yn annog Elizabeth i lofnodi’r gorchymyn i ddienyddio Mary, yn dilyn ei chyfraniad at blot Babington i lofruddio’r Frenhines, ond mae Elizabeth yn dal i fethu penderfynu. Nid yw’n gallu meddwl am gondemnio brenhines eneiniog. Yn y diwedd, mae Cecil yn llwyddo i ddarbwyllo Elizabeth i lofnodi’r gwarant. Pan glyw Iarll Caerlŷr bod Mary wedi cael ei chondemnio i farwolaeth, mae’n ymbil am y tro olaf am ei bywyd, gan geryddu Elizabeth am ei chreulondeb pan mae’n gwrthod ildio. Yna mae’n cael ei anfon gan y Frenhines i fod yn dyst i ddienyddiad Mary.
Mae Talbot a Cecil yn ymweld â Mary. Mae Cecil yn rhoi’r ddedfryd o farwolaeth iddi ac yn ei gadael ar ei phen ei hun gyda Talbot. Mae ef yn dweud wrthi am benderfyniad Elizabeth i anfon Iarll Caerlŷr yn dyst i’w dienyddiad. Mae Mary’n anesmwytho’n fawr ac yn dychmygu ei bod yn gweld ysbrydion ei chyn-ŵr a’i chariad, Darnley a Rizzio. Mae Talbot yn ei hannog i roi ei ffydd yn y nefoedd a pharatoi i wynebu ei marwolaeth yn wylaidd.
Mae torf ddisgwylgar yn gwylio’r paratoadau ar gyfer dienyddio Mary. Mae Mary’n ffarwelio â hwy ac maent yn ymuno â hi mewn gweddi derfynol am faddeuant yn y nefoedd. Mae Mary’n maddau i Elizabeth ac yn gweddïo dros les Lloegr. Mae’n ddagreuol pan mae Iarll Caerlŷr yn cyrraedd, gan brotestio ei bod yn ddiniwed a gofyn iddo ei chynnal wrth i awr ei marwolaeth nesáu. Mae ergyd canon derfynol i’w chlywed ac mae Mary’n cael ei harwain allan ar y sgaffald.