Moses und Aron Schoenberg
Archived: 2013/2014Trosolwg
Dychmygwch y eich bod yn cael clywed y peth pwysicaf a ddywedwyd wrth ddyn erioed. Bydd yr hyn a ddywedwyd wrthoch chi’n newid y byd ac yn achub dynol ryw.
Rhaid i chi’n awr rannu’r hyn a ddywedwyd wrthoch, chi yw llefarydd Duw ar y ddaear. Dychmygwch, er hynny, eich bod wedi’ch llethu gan anobaith fel eich bod yn methu dod o hyd i’r geiriau iawn i fynegi ewyllys Duw. Mae eich brawd yn mabwysiadu rôl y llefarydd ond mae'n ystumio geiriau Duw. Dyma drasiedi Moses yn Moses und Aron.
Mae’n amhosib gwrando ar gampwaith Schoenberg a pheidio â chael eich syfrdanu gan ei gyflawniad. Mae Moses und Aron yn ymgyrraedd at derfynau eithaf yr hyn y gallai opera ei wneud yn y ganrif ddiwethaf. Mae’n sain mor unigryw, mor daer fel y gellid maddau i chi am feddwl ei bod wedi dod i lawr o’r nefoedd ei hun.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o berfformio’r opera hon na chaiff ei pherfformio’n aml yn y cynhyrchiad dwys hwn gan Sergio Morabito a Jossi Wieler. Mae Moses und Aron yn fenter enfawr i’r perfformwyr a’r cynulleidfaoedd, fel ei gilydd, ond bydd y gwobrwyon yn eithriadol
Cefnogir gan y Colwinston Charitable Trust a'r The John S Cohen Foundation.
The TelegraphThe stars of the evening - as so often in Cardiff - are Welsh National Opera's Orchestra and Chorus. Conducted with meticulous clarity by the unsinkable Lothar Köenigs, they perform with immaculate musicianship
Ffeithiau
Supported by the Colwinston Charitable Trust and The John S Cohen Foundation.
Synopsis
Act Un
Mae Moses yn clywed llais Duw. Mae'n gofyn iddo arwain ei bobl allan o'u caethiwed yn yr Aifft, ac ennyn ynddynt gred yn yr Unig Wir Dduw. Mae Moses yn ofni wynebu’r dasg, gan bledio ei fod yn hen a’i fod yn 'lletchwith ei dafod'. Mae’r llais yn addo cymorth ei frawd Aron, y bydd ei eiriau yn achosi newid gwyrthiol ym meddyliau'r bobl.
Mae’r ddau frawd, Moses ac Aron, ill dau yn cael eu hysbrydoli a’u harswydo gan y genhadaeth ddwyfol. Maent yn ei chael yn anodd dod o hyd i esboniad o’r hyn na ellir ei egluro: dealltwriaeth o’r Duw anweledig ac annirnadwy.
Aiff y gair ar led bod Moses wedi dychwelyd, ynghyd ag Aron, er mwyn cyhoeddi duw newydd. Mae'r bobl, sydd wedi dioddef ers i Moses ladd Eifftiwr a oedd yn yrrwr caethweision, yn bryderus ac yn ofni dial.
Mae'r bobl yn hyrddio cwestiynau at Moses ac Aron am y duw newydd. Mae eu siom yn troi i lid pan nad ydynt yn gallu deall bod y duw hwn yn anweledig. Mae Moses yn rhwystredig pan nad yw'n gallu esbonio sut gellid dirnad Duw yn fewnol yn unig, ond mae Aron yn ceisio helpu’r bobl i ddeall drwy berfformio tair gwyrth drawsnewidiol.
Mae Aron yn dehongli gwyrth y ffon yn trawsnewid ei hun yn neidr fel alegori o gyfraith ddwyfol: mae angen hyblygrwydd ysbrydol i’w deall. Mae awdurdod a deallusrwydd, sy'n nodweddion angenrheidiol ar gyfer arweinwyr, i’w cael yn Moses ac Aron. Mae llaw Moses, sy'n ymddangos yn wahanglwyfus, yn cael ei gwella wrth ei rhoi dros ei galon, lle mae Duw yn preswylio. Wrth arllwys dŵr o afon Nîl, sy'n ymddangos ei fod yn newid i waed, mae Aron yn egluro bod gwaed yr Hebreaid wedi bod yn meithrin gwlad eu gorthrymwyr ers cenedlaethau. Byddai Duw yn eu rhyddhau ac yn eu harwain i wlad yn llifo o laeth a mêl. Byddai pŵer yr Eifftiaid, fodd bynnag, yn cael ei olchi i ffwrdd yn llifogydd afon Nîl.
Mae geiriau ysbrydoledig Aron yn cyrraedd calonnau’r bobl. Maent yn dod yn ymwybodol o fod yn bobl etholedig, a than arweiniad Moses ac Aron, maent yn mentro dechrau ar y frwydr dros ryddid.
Act Dau
Mae ecsodus y bobl o'r Aifft wedi eu harwain i'r anialwch. Mae Moses wedi bod ar fynydd y datguddiad am ddeugain diwrnod, ac nid yw wedi dychwelyd eto. Mae'r bobl wedi colli eu cred ynddo, ac maent eisiau troi eu cefnau ar y duw anweledig. Nid yw Aron yn gallu esbonio gweithredoedd ei frawd. Mae'r bobl yn pledio gyda'r henuriaid i gael yr hen dduwiau a’u cyfreithiau yn eu hôl. Mae Aron yn barod i gyfaddawdu ac yn paratoi i roi delw iddynt yn unol â’u dyheadau a'u dymuniadau.
Mae'r bobl yn cael eu swyno fwy a mwy gan bŵer atyniadol y ddelwedd. Mae'n dangos dulliau paratoi ar gyfer aberthu anifeiliaid, dawnsfeydd y lladdwyr, lladd yr anifeiliaid, poethoffrwm, iachau gwyrthiol gwraig sâl a llofruddiaeth ddefodol dyn ifanc yn protestio yn erbyn eilunaddoliaeth. Ar ôl llawer o yfed a dawnsio, daw’r addoliad i ben gydag aberth defodol pedair gwyryf noeth. Mae dinistr, hunanladdiad a thrythyllwesti erotig yn dilyn.
Daw Moses i lawr o'r mynydd. Ar ei orchymyn, mae’r ddelw a grëwyd gan Aron yn diflannu. Mae Moses yn herio penderfyniad ei frawd i weithredu yn erbyn y gorchymyn dwyfol. Mae Aron yn mynnu bod y bobl angen delw, yr oedd wedi ei defnyddio i lenwi'r bwlch ar ôl i Moses adael. Ym marn Moses, mae bodolaeth heb y syniad o Dduw yn ymddangos yn ddiwerth.
Mae Aron yn dadlau mai dim ond golwg cyfyngedig y gall y cyfreithiau a gafodd Moses gan Dduw eu rhoi i’r bobl, a’u bod yn ei chael yn anodd deall y drefn. Mewn anobaith, mae Moses yn dinistrio’r deddfau. Mae Aron yn ei gondemnio, gan ddweud y bydd yn parhau i gadw'r syniad o Dduw yn fyw drwy ei roi mewn geiriau. Mae'n ymuno â'r bobl wrth iddyn nhw barhau â'u taith i wlad yr addewid.
Gadewir Moses ar ôl. Mae Aron wedi priodoli geiriau a delweddau i'r hyn na ellir ei fynegi, ac wedi dinistrio canfyddiad absoliwt ei frawd o Dduw. I Moses, mae Duw wedi mynd yn dawel.