The Fall of the House of Usher Debussy
Archived: 2013/2014Trosolwg
Mae’r ddwy opera yn bwrw swyn hynod ormesol o fygythiad ac anesmwythder drosoch. Pur anaml y mae opera’n cael ei chysylltu ag iasau’r genre arswyd ond mae’r rhaglen ddwbl hon yn llwyddo i greu’r effaith a gaiff y ffilmiau arswyd gorau drwy chwalu’ch nerfau.
Usher House - Gordon Getty
Première Byd
La Chute de la Maison Usher - Debussy
Cwblhad gan Robert Orledge
Première Prydeinig o’r fersiwn newydd
Feiddiwch chi gamu i mewn i Dŷ Usher? Mae’n lle tywyll, dirgel, gyda’i feddwl ei hun yn ôl bob tebyg. Yn eu hoperâu un act mae Claude Debussy a Gordon Getty yn dwyn stori erchyll Edgar Allan Poe i’r llwyfan operatig.
Roderick Usher yw'r bachgen olaf o'i deulu sy’n fyw, mae’n byw fel meudwy yn ei gartref hynafiadol anferth gyda’i efail, Madeline. Mae hithau yn marw’n araf o glefyd mae ei meddyg ddim yn gallu neu ddim yn fodlon i ddarganfod achos neu wellhad. Mae Roderick yn erfyn ar hen ffrind i ymweld.
Yn fuan ar ôl cyrraedd y ffrind, mae Madeline yn marw ac yn cael ei chladdu mewn claddgell o dan y tŷ. Mewn ymgais i dawelu Roderick, mae ei ffrind yn darllen iddo o ramant ganoloesol. Wrth i uchafbwynt y stori gael ei gyrraedd, mae ffigwr Madeline yn ymddangos - mae wedi cael ei chladdu’n fyw ac mae wedi crafu ei ffordd allan o'r gladdgell i ddod o hyd i'w brawd.
Mae Roderick llawn arswyd ac wrth iddo ef a Madeline wynebu marwolaeth, mae Ty'r Usher yn cwympo o'u cwmpas.
Mae'r ddwy opera yn eich hudo i fyd llawn gormes, pryder a bygythiad. Camwch mewn i Dy'r Usher ond cofiwch, cadwch lygad dros eich ysgwydd...
Defnyddiol i wybod
Rhaglen ddwbl o gynhyrchiad newydd