Carmen Bizet
Archived: 2014/2015Trosolwg
Mae Carmen yn ddihareb am angerdd a meddwdod, a heb amheuaeth yn un o’r operâu mwyaf hudolus, poblogaidd ac adnabyddus yn y byd. Mae’r cynhyrchiad bras a dwfn yn eich tywys i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Sbaen fyrlymog oedd ohoni. Mae’r cyfan yn berffaith ar gyfer yr Habanera trwm a chân gyffrous y Toreador. Fel darn egnïol o natur sy’n anwybyddu pob norm cymdeithasol, mae Carmen – yn rhy brydferth, yn rhy danllyd ac yn rhy gyflym – yn sicr o ddenu trafferthion. Roedd Don José yn sicr o gael ei swyno ganddi. Dyma ŵr sy’n benwan yn ei deimladau tuag at Carmen, yn brwydro yn erbyn hiraeth a’i gydwybod a’i ddyletswydd. Gall ennyd o wallgofrwydd newid popeth.
Nid yw hi’n ddrwg yn y bôn. Serch hynny, mae hi’n gyfuniad angheuol o ysfa a dinistr. Mae’r cynhyrchiad bras a dwfn yn eich tywys i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Sbaen fyrlymog oedd ohoni. Mae’r cyfan yn berffaith ar gyfer yr Habanera trwm a chân gyffrous y Toreador.
Fel darn egnïol o natur sy’n anwybyddu pob norm cymdeithasol mae Carmen – yn rhy brydferth, yn rhy danllyd ac yn rhy gyflym – yn sicr o ddenu trafferthion. Roedd Don José yn sicr o gael ei swyno ganddi. Dyma ŵr sy’n benwan yn ei deimladau tuag at Carmen, yn brwydro yn erbyn hiraeth a’i gydwybod a’i ddyletswydd.
Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Ffrangeg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Act Un
Mae hi’n ddiwrnod gwaith prysur yn Seville, mae merch ifanc o’r enw Micaëla yn edrych am y Corporal Don José, ond nid oes golwg ohono yn unman. Daw'r milwyr a gwŷr y dref at ei gilydd i edmygu’r merched wrth iddynt ddod allan o’r ffatri sigaréts, mae un o’r merched yn arbennig yn tynnu eu sylw: Carmen y sipsi. Dyweda Carmen wrth ei hedmygwyr swynedig fod cariad yn rhywbeth gwbl rydd sydd ddim yn gaeth i reolau. Cyn i Carmen ddychwelyd i’w gwaith mae hi’n taflu blodyn at José, mae e’n cuddio’r blodyn yn frysiog wrth i Micaëla gyrraedd ato gyda llythyr oddi wrth ei fam. Mae Micaëla yn gadael wrth iddo ddechrau darllen y llythyr, ond mae sŵn cwffio rhwng Carmen a merch arall yn y ffatri yn tarfu arno. Gorchmynna'r Is-gapten Zuniga i Don José ddal Carmen er mwyn ei rhoi hi yn y carchar. Ond, pan mae Carmen yn cael José ar ei ben ei hun, mae hi’n ei hudo i’w chyfarfod hi hwyrach ymlaen yn nhafarn Lillas Pastia. Ar ôl ei swyno, mae Carmen yn achub ar y cyfle i ddianc a chaiff José ei arestio am esgeuluso ei ddyletswydd.
Act Dau
Mis yn ddiweddarach, mae Carmen yn difyrru’r gwesteion yn nhafarn Pastia gyda’i chyfeillion Frasquita a Mercédès, pan glywa fod Don José newydd gael ei ryddhau o’r carchar. Ond, y funud honno, cyrhaedda Escamillo, yr ymladdwr teirw anturus a chyfareddol, yn brolio pleserau ei broffesiwn. Ceisia Escamillio hudo Carmen, ond mae hi’n ei wrthod. Ar ôl i’r rhan fwyaf o bobl adael y dafarn, mae dau smyglwr yn ymuno â Carmen a’i chyfeillion ac yn ceisio denu’r merched i gymryd rhan yn eu cynllun anghyfreithlon diweddaraf. Mae Carmen yn penderfynu aros yn y dafarn i ddisgwyl am Don José, ar ôl iddo gyrraedd mae hi’n ei swyno gyda dawns breifat, ond cyn hynny mae hi’n ei wneud yn genfigennus drwy ddisgrifio ei dawnsiau i Zuniga. Mae biwgl yn galw ar José i ddychwelyd i’w ddyletswyddau milwrol, ond pan mae Carmen yn ei wawdio, mae’n estyn y blodyn a daflodd hi ato fis yn ôl, gan ddweud fod arogl y blodyn wedi rhoi gobaith iddo yn ystod ei garchariad. Rhuthra Zuniga i mewn i’r ystafell ac mae José yn ymosod arno mewn ffit o genfigen. Pan mae’r smyglwyr yn dychwelyd, nid oes gan José unrhyw ddewis ond ymuno â nhw, a gyda Carmen maen nhw i gyd yn ffoi am y mynyddoedd.
Act Tri
Yn eu cuddfan yn ddwfn ym mynyddoedd y ffindir, mae cariad Carmen a José wedi troi yn ffraeo, ac mae gêm dweud ffortiwn yn darogan marwolaeth iddynt ill dau. Yn y cyfamser, mae Micaëla y ferch o’r pentref yn cuddio yn y cysgodion, yn ofnus o Carmen y ferch sydd wedi troi José yn droseddwr. Mae Escamillo yr ymladdwr teirw a José yn cwffio, ac wrth i Escamillo adael mae e’n gwahodd y grŵp, Carmen yn enwedig, i wylio ei ymladdfa deirw nesaf. Ymddengys Micaëla o’r cysgodion ac erfyn ar José i ddychwelyd adref i weld ei fam sydd ar ei gwely angau. Wrth iddo adael, mae José yn rhybuddio Carmen y bydd y ddau ohonynt yn cwrdd eto.
Act Pedwar
Wrth i’r dorf gymeradwyo’r ymladdwyr teirw ar eu ffordd i’r arena, mae Carmen yn cyrraedd yn falch ar fraich Escamillo. Mae José yn erfyn arni yn angerddol i ddod yn ôl ato ef, ond ateba hi’n bwyllog trwy ddweud nad yw hi’n ei garu bellach, a’i bod hi’n enaid rhydd. Wrth i’r dorf gymeradwyo Escamillo, mae José yn trywanu Carmen mewn ffit o wylltineb, a chaiff ei adael ar ei ben ei hun i wylo uwchben corff y ferch roedd e’n ei charu.