Hansel & Gretel Humperdinck
Archived: 2014/2015Trosolwg
Bydd unrhyw un sydd a synnwyr o hwyl a ffantasi drygionus yn mwynhau'r dehongliad hyfryd o dywyll hwn o'r stori dylwyth teg enwog.
Mae Richard Jones wrth ei fodd yn agweddau hunllefus y stori. Mae ei gynhyrchiad clasurol yn troi o amgylch themau newyn, glythineb a chanibaliaeth sydd dan wyneb y stori. Yng nghalon y goedwig, rhaid i Hansel a Gretel dwyllo a chwarae triciau er mwyn osgoi ffawd ofnadwy.
Bydd y cynhyrchiad hudolus hwn, sy'n cynnwys dilyniant hyfryd o freuddwyd sy'n dangos gwledd a weinir gan bysgodyn, yn cyfareddu'r rheini sydd am ymchwilio ochr dywyll a digri opera.
Cynhyrchiad ar y cyd gyda Lyric Opera, Chicago
Cefnogir gan WNO Ildoes Owen Society.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Canllaw oedran: 10 mlwydd oed +
Synopsis
Act Un
Cartref y gwneuthurwr ysgubau
Mae Hansel yn cwyno ei fod yn llwglyd. Mae Gretel yn dangos iddo’r llaeth mae cymydog wedi ei roi i’r teulu ei gael i swper. Dawnsia’r plant yn llawen. Daw eu mam yn ôl, ac mae hi eisiau gwybod pam nad yw’r ddau wedi gorffen y tasgau a adawodd iddyn nhw. Mae’r llaeth yn cael ei daro drosodd ar ddamwain ac mae eu mam yn hel y plant allan i’r goedwig i gasglu aeron. Mae eu tad yn dychwelyd adref yn feddw. Mae wedi cael bwyd iddynt ac yn holi lle mae’r plant. Eglura’r fam wrtho ei bod wedi anfon y ddau i’r goedwig. Dyweda’r tad wrthi fod yna wrach yn y goedwig a bod y plant mewn perygl. Mae’r ddau yn mynd allan i’r goedwig i edrych am y plant.
Act Dau
Y goedwig
Mae’r plant wrthi’n brysur yn hel aeron. Clywant gwcw yn canu a dechreuant fwyta’r aeron nes bod y cwbl ohonynt wedi mynd. Mae Hansel yn cyfaddef wrth Gretel ei fod wedi colli’r ffordd yn ôl. Dechreuant deimlo’n ofnus. Mae Huwcyn Cwsg yn ymddangos ac yn taenu llwch dros eu llygaid i’w helpu i gysgu. Mae’r plant yn dweud eu pader ac yn disgyn i gysgu gan freuddwydio am angylion yn gofalu amdanynt.
Act Tri
Y tŷ bara sinsir
Daw’r Dylwythen Wlith i ddeffro’r plant. Mae’r ddau yn dod o hyd i dˆy bara sinsir, ond nid ydynt yn sylwi ar y Wrach sy’n eu hudo i mewn i’r tˆy. Penderfyna’r wrach besgi Hansel at ei dibenion ei hun a gorfodi Gretel i weithio iddi, a gofynna iddi i gynhesu’r popty. Lwydda Gretel i dorri swyn y wrach a rhyddhau Hansel. Pan ofynna’r wrach iddi i edrych tu fewn i’r popty i weld a yw wedi cynhesu digon, mae Gretel yn cymryd arni nad yw’n gwybod beth i’w wneud. Wrth i’r wrach ddangos iddi sut i wneud, mae’r plant yn ei gwthio hi i mewn i’r popty ac yn cau’r drws yn glep. Mae dioddefwyr blaenorol y wrach yn dod yn ô̂l yn fyw. Mae rhieni Hansel a Gretel yn dod o hyd i’r ddau yn ddiogel ac yn diolch am eu hachubiaeth.