Moses in Egypt
Archived: 2014/2015Trosolwg
Mae’r cynhyrchiad a ysbrydolwyd gan Chagall yn fyrlymog ac yn lliwgar. Er mor argoelus y mae’r cysgodion sy’n cau amdanom yn ymddangos, rydym yn gwybod y gallai rhyddid fod gyn lleied ag eiliad i ffwrdd.
Rhown yr addewid hon: mae Moses in Egypt yn syfrdanol. Mae dehongliad bel canto Rossini o stori’r Ecsodus yn llwyddo i ffrwyno cerddoriaeth sydd ar raddfa anferthol ac mor hyfryd. Mae’n bwerus ac yn ddwys, ac yn llwyddo i amlygu’r gwyrthiau sydd wrth wraidd yr opera hon. Y mae hefyd yn caniatáu i ni brofi’r berthynas anhygoel o wresog sydd gan Moses gyda’i Greawdwr a’i bobl.
Cawn ymuno ar y daith a rhannu graddfa anhygoel eu tasg enbyd a brawychus
Ond nid yw fyth yn llwm. Mae’r cynhyrchiad a ysbrydolwyd gan Chagall yn fyrlymog ac yn lliwgar. Er mor argoelus y mae’r cysgodion sy’n cau amdanom yn ymddangos, rydym yn gwybod y gallai rhyddid fod gyn lleied ag eiliad i ffwrdd.
Cyd-gynhyrchiad gyda Houston Grand Opera
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Yr Act Gyntaf
Fel cosb ddwyfol am fod Pharo wedi gwrthod rhyddhau’r Israeliaid o gaethwasiaeth, mae pobl yr Aifft wedi’u tynghedu i dywyllwch gan Moses, arweinydd yr Israeliaid. Yng nghysgod palas yr Aifft, mae’r bobl yn galarnadu eu tynged, tra bo Osiris, mab y Pharo, wedi’i lethu gan ing oherwydd ei gariad gwaharddedig at yr Hebraes, Elcia. O sylweddoli ei gam gwag, mae Pharo’n gwysio Moses a’i frawd, Aaron, i’r llys. Dywed Pharo wrth Moses y bydd yn rhyddhau’r Israeliaid cyn gynted ag yr adferir goleuni dros dir yr Aifft. Ar waetha’ amheuon Aaron, gofynna Moses i Dduw wyrdroi’r felltith, ac fel y mae’r tywyllwch yn goleuo, mae’r bobl yn llawenhau. Gan ofni y byddai ei Elcia annwyl yn gadael, mae Osiris yn ceisio argyhoeddi Pharo i ohirio ymadawiad yr Iddewon, ond yn ofer. Wedi’i adael ar ei ben ei hun, mae Osiris yn melltithio’r duwiau, a daw Mambre ato, yr Archoffeiriad Eifftaidd, sydd wedi’i gynddeiriogi fod Pharo wedi anwybyddu ei gyngor. Yn eu dicter, maent yn cytuno i blannu hadau gwrthryfel ymysg y bobl. Yn fuan wedyn, daw Elcia i ffarwelio’n drist â’i Osiris sydd wedi torri’i galon: mae’n rhaid iddi hi ufuddhau i’w dyletswydd a gadael y wlad gyda’i phobl.
Yn y cyfamser, mae cynllwyn Mambre ac Osiris eisoes wedi cael cryn effaith: mae tir y palas yn berwi o Eifftiaid sy’n mynnu ail-gaethiwo’r Iddewon. Mae’r ddau ddyn yn argyhoeddi Pharo fod Moses wedi ei hudo i fod yn drugarog wrth yr Israeliaid, ond mae Brenhines yr Aifft, Amaltea, yn protestio, a hithau wedi cael troedigaeth gyfrinachol at Iddewiaeth. Ar waetha’ pledio ei wraig, mae Pharo yn diddymu’r dyfarniad o ryddid i’r Iddewon, gan ddatgan pe baent yn ceisio gadael y byddent yn cael eu lladd. Heb wybod am orchymyn Pharo, mae’r Iddewon yn moliannu Duw wrth baratoi i adael y wlad, tra bo chwaer Moses, Amenophis, yn cysuro Elcia yn ei galar. Torrir ar draws eu moliant wrth iddynt gael eu hamgylchynu gan filwyr Pharo, sydd wedi dod i’w carcharu drachefn. Mae Moses yn rhybuddio llywodraethwr yr Aifft y bydd cenllysg a chawod o dân yn dinistrio’r Aifft os nad yw’n ildio ond gan fod Pharo yn benderfynol, mae’r nefoedd yn agor gan dywallt eu cosb ar bobloedd yr Aifft
Yr Ail Act
Mae Pharo’n ildio am yr eildro, gan ganiatáu i’r Iddewon adael er mwyn arbed yr Aifft rhag dialedd dwyfol gwaeth. Fodd bynnag, mae Osiris yn dal i ddioddef: wedi’i arswydo o ddeall fod ei dad wedi ei ddyweddïo i dywysoges estron. Mae Moses yn rhannu ei bryder ag Amaltea, Brenhines yr Aifft, y bydd Pharo yn torri ei air unwaith eto. Ar ei phen ei hun gyda’i chariad, mae Elcia wedi’i harswydo o ddeall am ddyweddïad gorfodol Osiris. A hwythau’n cynllwynio i redeg i ffwrdd gyda’i gilydd, cânt eu dal gan y Frenhines Amaltea, sy’n gorchymyn i’r milwyr eu gwahanu gyda grym. Wedi torri’i galon, mae Osiris yn ymwrthod â’i hawl i orsedd yr Aifft.
Mae Pharo’n derbyn llythyr sy’n datgan y bydd y gwledydd cyfagos yn ymosod pe bai’n rhyddhau’r Iddewon, ac felly, am y trydydd tro, mae’n eu rhwystro rhag gadael. Fe’i rhybuddir gan Moses y bydd pob bachgen cyntaf-anedig, gan gynnwys ei fab ei hun, y Tywysog Osiris, yn cael eu taro gan ddicter y nefoedd. Er mwyn herio bygythiad Moses, mae Pharo yn gosod ei fab ar yr orsedd wrth ei ochr. Sylweddola Osiris y byddai ganddo, fel cyd-lywodraethwr yr Aifft, y grym i achub ei gariad Elcia o garchar. Mae hi’n erfyn arno i drugarhau a rhyddhau’r Iddewon, ond mae Osiris yn cyhuddo Moses o osod hud arni. Yn ei ddicter, y mae’n ceisio llofruddio arweinydd yr Hebreaid, ond fe’i trewir yn farw gan fellten, sy’n gadael Elcia i alaru am ei cholled.
Y Drydedd Act
Gyda byddin yr Aifft yn dynn ar eu sodlau, mae’r Israeliaid wedi ffoi i’r anialwch. Maent yn canfod fod eu llwybr wedi’i rwystro gan y Môr Coch, ac fe’u harweinir gan Moses mewn gweddi daer am drugaredd dwyfol. Wrth i Moses gyffwrdd y môr gyda’i wialen, y mae’r dyfroedd yn agor yn wyrthiol, gan ganiatáu i’r Israeliaid groesi’n ddiogel i’r lan arall. Pan fo Pharo a’i fyddin yn eu herlid, cânt eu boddi i gyd wrth i’r dyfroedd dywallt yn ôl ar eu pennau.