Pelléas and Mélisande Debussy
Archived: 2014/2015Trosolwg
Yn nheyrnas freuddwydiol o Allemonde, mae undod yn ffurfio rhwng Mélisande bregus a hanner-frawd ei gwr, Pelléas
Dyma opera drasig yn wahanol i bob un arall. Mae Debussy yn creu tân gwyllt allan o eiriau i greu amgylchedd breuddwydiol rhyfedd sy’n anodd dianc rhagddo. Mae’n addas bod y tîm a greodd fersiwn o Lulu yn 2013 yn dychwelyd i’r llwyfan i gyflwyno’r campwaith prydferth ond cythryblus hwn o’r 20fed ganrif.
Paratowch i gael eich trwytho i mewn i fyd teimladwy a dirgel Debussy.
Supported by WNO Partners.
Supported by WNO Pelléas Circle.
The Times
Synopsis
Act Un
Wrth hela yng nghoedwigoedd hynafol Allemonde, mae Golaud, sy’n ŵr gweddw ac yn ŵyr i Frenin Arkel, yn mynd ar goll, ac mae’n dod ar draws merch ofnus a dirgel yr olwg yn eistedd wrth ymyl pwll. Yn nyfnderoedd y pwll mae coron, ond mae Mélisande yn gwrthod gadael i Golaud geisio ei chael yn ôl iddi, er gwaethaf ei gofid. Mae'n ei pherswadio i adael y goedwig a mynd gydag ef.
Fisoedd yn ddiweddarach, yn y palas brenhinol, mae Geneviève, mam Golaud yn darllen llythyr yn uchel gan ei mab. Ynddo dywed Golaud ei fod wedi priodi Mélisande, a’i fod yn bwriadu hwylio i ffwrdd os yw’r brenin yn anghymeradwyo ei wraig – y mae’n ddirgelwch o hyd pwy ydyw. Mae’r Brenin yn maddau i Golaud, ac yn gofyn i Pelléas, ei ŵyr arall - hanner brawd Golaud – roi neges iddo ei fod yn rhoi sêl ei fendith ar y briodas. Mae Pelléas yn gofyn am ganiatâd i ffarwelio â chyfaill sy’n marw, ond mae’r Brenin yn ei atgoffa o’i ddyletswydd. Rhaid i Pelléas ddisgwyl i’w frawd ddychwelyd, gofalu am ei dad sy’n wael, a chyfarch Mélisande, gwraig Golaud. Mae Pelléas yn ufuddhau i Geneviève ac yn gofalu am Mélisande, a gyda’i gilydd maent yn gwylio llong yn gadael.
Act Dau
Ym mherfeddion y parc, maent yn dod ar draws ffynnon, ac wrth i Mélisande chwarae â’i modrwy briodas, mae’n ei gollwng yn ddamweiniol i’r dŵr. Yr un pryd, ym mherfeddion y goedwig, mae Golaud yn cael ei daro gan deimlad o golled fawr, ac mae ei geffyl yn rhusio. Mae Mélisande yn ei gysuro, ac yn egluro ei bod yn dyheu am ddianc o’r castell. Sylwa Golaud nad yw’n gwisgo ei modrwy briodas, ac mae'n anfon Pelléas a Mélisande i chwilio amdani yn y groto gan mai yno y mae Mélisande yn honni ei bod wedi ei cholli rhag iddo amau. Yng ngolau’r lleuad mae’r groto sinistr, sy’n llawn o gardotwyr yn cysgu, yn codi ofn mawr ar Mélisande, ac mae’n ymbil i fynd oddi yno.
Act Tri
Daw Pelléas i’r tŵr i ffarwelio â Mélisande, ond caiff ei swyno gan ei gwallt hirllaes, ac mae'n ei gusanu. Ond mae Golaud yn eu ceryddu am ymddwyn fel plant, ac mae'n gadael gyda’i hanner brawd, gan fynd ag ef i gromgell dywyll a thrymaidd. Pan ddaw’r ddau allan, mae'n rhybuddio Pelléas fod Mélisande yn feichiog.
Mae Pelléas a Mélisande yn cyfarfod yn y castell ar eu pennau eu hunain, ac mae Golaud yn llawn cenfigen. Mae’n gorfodi Yniold, ei fab ifanc o’i briodas gyntaf, i gadw llygad ar y ddau, ond er bod bachgen ofnus yn dweud na welodd unrhyw beth amheus, mae Golaud yn dal i’w hamau.
Act Pedwar
Mae Pelléas yn penderfynu gadael y castell, ac yn trefnu i gyfarfod Mélisande am y tro olaf wrth y ffynnon lle collodd ei modrwy. Mae’r Brenin Arkel yn ceisio cysuro Mélisande y bydd y castell yn lle hapusach ar ôl i dad Pelléas wella. Ond caiff ei siomi pan gyhudda Golaud Mélisande o fod yn anffyddlon, a’i thaflu i’r llawr. Wyla Mélisande yn ei gofid, a thosturia Arkel wrthi.
Ger y ffynnon mae Yniold yn ceisio chwilio am bêl y mae wedi ei cholli, ond tynnir ei sylw gan ddefaid yn cael eu harwain i’w lladd, ac mae'n crwydro i ffwrdd. Mae Pelléas a Mélisande yn cyfarfod yno unwaith eto, ac yn datgan eu cariad yn dawel, heb wybod bod Golaud yn ysbïo arnynt. Yn ei dymer, mae Golaud yn lladd Pelléas, ac yn rhedeg ar ôl ei wraig feichiog, Mélisande.
A Mélisande erbyn hyn wedi rhoi genedigaeth cyn pryd ac yn marw, mae Golaud yn llawn edifeirwch, ond er gwaethaf dioddefaint Mélisande, mae'n mynnu cael gwybod a fu hi’n anffyddlon iddo. Mae Mélisande yn honni na fu’n anffyddlon iddo ac mae’n marw, ac mae Arkel yn arwain Golaud i ffwrdd yn ei ofid.