Peter Pan Richard Ayres
Archived: 2014/2015Trosolwg
Mae môr-ladron, Indiaid, tylwyth teg a chrocodeil sy’n tician oll yn eich disgwyl yng ngwlad Byth Bythoedd – lle o ddychymyg tragwyddol.
Dilynwch Peter allan trwy'r ffenestr a hedfanwch gyda ni i wlad llawn rhyfeddod.
Bellach mae stori fythol swynol JM Barrie yn opera newydd fawr. Gyda’i brwydr rhwng cariad a rhyddid, mae Peter Pan yn berffaith ar gyfer opera. Mae’r cyfansoddwr Prydeinig, Richard Ayres, a’r libretydd, Lavinbia Greenlaw, wedi creu dehongliad gwreiddiol ond triw o’r stori hon sy’n annwyl gan lawer. Mae cynhyrchiad dyfeisgar Keith Warner, ei gyntaf i WNO, yn addo ffantasi Edwardaidd pur.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i gyflwyno aelodau ifanc y teulu sy’n 8 a throsodd i hud yr opera.
Cefnogir y cynhyrchiad gan Getty Family fel rhan o British Firsts, Colwinston Charitable Trust, The John S Cohen Foundation a gan The N Smith Charitable Settlement.
Mae WNO yn ddiolchgar i gydnabod cefnogaeth gan PRS for Music Foundation.
Cefnogir perfformiadau yn y Royal Opera House gan Lywodraeth Cymru.
The TimesRichard Ayre's operatic version of JM Barrie's story is a triumph that will grip children and give adults plenty to think about.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg
Canllaw oedran: 8 mlwydd oed +
Synopsis
Act Un
Llundain Edwardaidd
Yn hwyr un noson, tra mae eu rheini allan, mae Wendy, Michael a John Darling yn cael ymweliad gan hogyn rhyfedd o’r enw Peter Pan a Tinker Belle, y dylwythen deg eofn. Mae Peter wedi hedfan drwy ffenestr agored eu cartref yn Llundain o le llawn hud a lledrith o’r enw’r Wlad Byth Bythoedd, ynys llawn môr-ladron, indiaid cochion, môr-forynion, creaduriaid hudolus a choedwigoedd dirgel. Nid yw’n cymryd llawer o amser i Peter ddwyn perswâd ar y plant i adael eu cartref teuluol, ac ymuno ag ef ar ei ddychweliad yno. Gyda phinsiad o lwch hud y dylwythen, maen nhw’n hedfan ar draws Llundain, a hynny er braw i Mrs Darling, sy’n rhuthro yn ôl i’r tŷ, ond y mae hi’n rhy hwyr: mae gwelyau'r plant yn wag.
Act Dau
Gwlad Byth Bythoedd
Mae Bechgyn Coll y Wlad Byth Bythoedd yn aros yn ddiamynedd i’w harweinydd, Peter, ddychwelyd. Mae Tinker Belle yn genfigennus o gyfeillgarwch Wendy â Peter, a thrwy hedfan o flaen y grŵp, mae hi’n dangos ei hochr ddrygionus wrth berswadio bechgyn ifanc y Wlad Byth Bythoedd i geisio saethu ei gwrthwynebydd i lawr. Disgynna Wendy i’r llawr, a phan gyrhaedda Peter gyda John a Michael, y mae wedi’i gythruddo o ddarganfod cynllwyn anfad Tinker Belle. Diolch byth, daw Wendy at ei hun, ac mae hi’n chwarae rôl y fam i’r bechgyn coll, sydd fel Peter, heb deulu eu hunain.
Nid yw popeth yn heddychol yn y Wlad Byth Bythoedd. Mae’r llwfrgi Capten Hook a’i griw o fôr-ladron yn ceisio dial yn erbyn Peter Pan, am dorri ei law i ffwrdd a’i roi yn fwyd i grocodeil. Mae Hook yn grediniol y bydd y crocodeil yn ei lowcio, ac felly mae’n gwrando’n gyson ar sŵn ei oriawr yn tician ar ei arddwrn, sy’n atseinio ym mol y bwystfil. Mae’r Bechgyn Coll yn ddiogel, am y tro.
Yn bell oddi cartref, mae Wendy yn dechrau blino yn sgil y pwysau o fod yn fam, ac fel Michael a John mae’n hithau’n cael trafferth cofio am ei rheini. Yn y cyfamser, mae cyfaill Peter, Tiger Lily, sy’n frodor o’r ynys, yn cael ei herwgipio gan y môr-ladron, gan arwain at frwydr waedlyd ar yr ynys, wrth i’r Bechgyn Coll a phlant teulu Darling ymladd i’w hachub. Maen nhw’n llwyddo, er wrth i Tinker Belle wylio’n orfoleddus, daw Wendy yn genfigennus o edmygedd Peter tuag at Tiger Lily, ac mae’r tensiynau yn nhyrchfa’r plant yn uchel. Wrth iddi nosi, mae plant teulu Darling, sydd bellach yn hiraethu am adref yn hel atgofion, a hynny er diddordeb i’r Bechgyn Coll. Mae’r dirgelwch ynghylch cefndir Peter yn dyfnhau. Disgrifia sut yr hedfanodd o gartref, a dychwelyd lawer o amser yn ddiweddarach i ganfod plentyn arall yn cysgu yn ei wely. Yn wanhaol i’r bechgyn coll, nid oes eisiau teulu arno, ac mae’n gwrthod gadael y Wlad Byth Bythoedd. Wrth i’r plant adael y tŷ un ar ôl y llall, mae Peter pwdlyd yn cael ei adael ar ôl, yn anymwybodol fod y môr-ladron yn aros am y plant i fyny grisiau.
Mae Capten Hook yn sleifio i mewn i’r tŷ, gan wenwyno moddion Peter wrth iddo gysgu. Pan ddeffra Peter, dywed Tinker Belle wrtho fod ei ffrindiau wedi’u herwgipio. Er mwyn arbed Peter rhag yfed y moddion gwenwynig hwn cyn iddo hedfan i ffwrdd i’w hachub, mae hi’n ei yfed, a daw yn agos iawn at farw wrth wneud hynny. Mae Tinker Belle yn tyrru o’i chwmpas ac mae’r ddau yn hedfan gyda’i gilydd at long y môr-leidr.
Ar long y môr-leidr
Mae Hook yn gandryll fod Peter wedi drysu ei gynllwyn gwenwynig, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n croesi cleddyfau. Sylweddola Hook ei fod wedi taro ar ei debyg, ac y mae’n gwrando’n astud am sŵn ‘tician’ y crocodeil cyn iddo neidio i mewn i’r môr i ddianc oddi wrth Peter. Ychydig a ŵyr fod yr oriawr wedi peidio â thician, ac mae’n neidio i ar ei union i geg y crocodeil. Yn dilyn y fuddugoliaeth hon, mae’r holl blant, ac eithrio Peter, yn hedfan yn ôl i Lundain.
Llundain
Mae Mr a Mrs Darling, a Nana’r ci bron iawn wedi colli pob gobaith o weld eu plant yn dychwelyd, ac maen nhw’n edifarhau’n fawr. I ddechrau, nid ydyn nhw’n coelio fod y plant wedi dod yn ôl, ond maen nhw wrth eu bodd pan maen nhw’n sylweddoli fod Wendy, John a Michael yn cysgu’n drwm yn eu gwelyau unwaith eto. Maen nhw’n croesawu’r Bechgyn Coll i’r teulu, gan roi iddyn nhw’r teulu maen nhw wedi bod yn hiraethu amdano. Gadewir Peter Pan ymhell i ffwrdd, ac wrth syllu ar awyr du Llundain am y tro olaf, mae Mrs Darling yn pendroni tybed a fydd hi’n gweld y bachgen na dyfodd yn oedolyn.