The Magic Flute Mozart
Archived: 2014/2015Trosolwg
Bob nawr ac yn y man mae pawb angen treulio noswaith yn y theatr er mwyn gwneud i ni wenu. Mae The Magic Flute gan Mozart, syín gynnes, yn sbort ac yn ddoniol, yn gwneud yr union beth hwnnw.
Mae'r Cyfarwyddwr Dominic Cooke yn cyflwyno cynhyrchiad beiddgar sy'n cyfuno cerddoriaeth aruchel Mozart gyda llwyfanu swrrealaidd sy'n cynnwys cimwch cas, llew sy'n darllen papur newydd a physgodyn sydd hefyd yn troi'n feic.
Maeír gymysgedd dda o gomedi, pantomeim, athroniaeth a chrefydd, ar set anhygoel wedi'i ysbrydoli gan Magritte yn golygu bod The Magic Flute yn noson i'w chofio. Stori pobl ifanc yn dod o hyd iíw lle yn y byd, gan ddod i wybod drostyn nhw eu hunain beth syín wir a beth sy'n gau, beth syín iawn a beth sydd ddim yw opera enwocaf Mozart. Maeín siwrnai drwy'r tywyllwch cyn cyrraedd golau dydd.
Gan ei bod yn addas i'r teulu cyfan, mae The Magic Flute yn gyflwyniad perffaith i opera, gydag eiliadau o hudoliaeth gwirioneddol a fydd yn aros yn y cof am byth. Dewch i weld y profiad bythgofiadwy hwn.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Canllaw oedran: 8 mlwydd oed +