William Tell Rossini
Archived: 2014/2015Trosolwg
Er mai fel comedïwr y mae Rossini yn adnabyddus yn bennaf, yma mae’n dangos ei ochr ddifrifol gyda stori sy’n newid, yn troi ac yn procio ein hemosiynau.
Beth ydych chi’n ei wybod am William Tell? Mae pawb yn gyfarwydd a’r dôn afaelgar a ddefnyddiwyd fel arwyddgan y Lone Ranger. Mae nifer hefyd yn gwybod am yr olygfa eiconig pan mae Tell yn gyrru saeth drwy afal ar ben ei fab. Ond mae llawer mwy i’r opera hon, hefyd. Os ydych yn chwilio am noson o arwriaeth i’ch ysbrydoli, stori ingol ar raddfa epig, cerddoriaeth ddyrchafol, setiau ysblennydd a gwisgoedd trawiadol, fe welwch fod William Tell yn taro’r nod gyda meistrolaeth tra chywir.
Mae opera olaf Rossini’n cyfuno’r elfen fythol boblogaidd o oresgyniad gan wlad dramor gydag enghreifftiau aruchel o obaith a llonyddwch. Er mai fel comedïwr y mae Rossini yn adnabyddus yn bennaf, yma mae’n dangos ei ochr ddifrifol gyda stori sy’n newid, yn troi ac yn procio ein hemosiynau. Bydd y cynhyrchiad hwn yn gosod gwisgoedd gwerinol a thraddodiadol y Swistir yn erbyn gwisgoedd swyddogol oeraidd a llwyd Awstria. Mae dilyniannau godidog bale a goreograffwyd yn ychwanegu at y gwrthgyferbyniad.
Mae ein harwr yn sefyll yn erbyn y tirwedd trwm a hudolus hwn. Fel canolbwynt dyhead diflino ei genedl, mae William Tell yn pwysleisio sut gall gwlad, unwaith y bydd yn feiddgar a pharod, ac yn union fel byd natur, orchfygu’r hyn sydd yn ei herbyn. Dim ond ennyd sydd ei hangen.
Cyd-gynhyrchiad gyda Grand Théâtre de Genève a Teatr Wielki, Warsaw.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Ffrangeg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Act Un
Tra bod y gwerinwyr yn mwynhau Gŵyl y Bugeiliaid ar ymyl y dŵr, mae William Tell y saethwr a’r badwr medrus yn sefyll ar wahân, yn gofidio fod y Swistir yn dal i gael ei ormesu gan Awstria. Yn ôl traddodiad Swisaidd, byddai eu harweinydd Melcthal, yn bendithio'r holl gyplau cariadus, ond mae e’n gadael yn ddig ar ôl ceryddu ei fab, Arnold, am ei fethiant i ddod o hyd i wraig. Mae Arnold yna’n datgelu ei gyfyng-gyngor: mae ef mewn cariad â Mathilde - chwaer Gessler y Llywodraethwr Awstriaidd milain - ond mae ef yn cael ei rwygo gan ei deyrngarwch tuag at ei wlad. Mae Arnold yn gadael yn llawn anobaith. Daw mab Tell, Jemmy yn fuddugol mewn cystadleuaeth saethyddiaeth, gan ddangos ei fod wedi etifeddu medr ei dad. Caiff y dathliadau eu tarfu gan ymddangosiad Leuthald, bugail sydd newydd ladd milwr Awstriaidd er mwyn amddiffyn enw da ei ferch. Mae Tell yn helpu Leuthald i ddianc rhag byddin Gessler drwy ei gludo ar draws y dyfroedd peryglus yn ei gwch. Ond, pan gyrhaedda’r milwyr Awstriaidd mae’r pentrefwyr yn gwrthod rhoi gwybodaeth am Tell ac felly mae Rudolphe y Cadlywydd Awstriaidd yn cymryd Melcthal yn garcharor.
Act Dau
Mae Arnold a Mathilde yn cyfarfod ac yn datgan eu cariad tuag at ei gilydd er gwaethaf y rhwystrau sy’n eu hwynebu. Gadawa Mathilde wrth weld Tell yn cyrraedd, mae Tell yn holi Arnold am ei gysylltiad bradwrus â Mathilde. Mae Arnold yn ymateb trwy gyhoeddi y bydd e’n ymladd dros yr Awstriaid, ond pan mae Tell yn dweud wrtho eu bod nhw wedi dienyddio ei dad, mae Arnold yn addunedu i ddial am ei farwolaeth. Mae Tell, Arnold a’u cyd gwladgarwr Swisaidd, Walter yn addunedu i ymladd dros annibyniaeth a daw milwyr i ymuno â hwy i ymladd i ryddhau eu cenedl o orthrwm.
Act Tri
Mae Arnold yn dweud wrth Mathilde mai ei brawd hi oedd yn gyfrifol am ddienyddiad ei dad, a'i fod ef wedi penderfynu aros er mwyn dial. Gyda gofid mawr mae Mathilde yn cyfaddef nad oes gobaith i’w cariad nhw. Ym marchnad Altdorf, mae Gessler yn llywyddu dros ddathliadau canmlwyddiant rheolaeth Awstria dros y Swistir. Mae e’n gosod ei het ar ben polyn ac yn gorchymyn y Swisiaid i foesymgrymu o’i flaen fel symbol o oruchafiaeth Ymerawdwr Awstria. Gwrthoda William Tell i ufuddhau a chaiff ei gosbi am hynny, ac am helpu Leuthald i ddianc. Mae Gessler yn gorchymun Tell i gymryd ei fwa a saeth a saethu afal sydd wedi’i osod ar ben Jemmy. Mae Tell yn cymryd dwy saeth, ond llwydda i saethu’r afal ar yr ymgais gyntaf, er mawr lawenydd i’w gydwladwyr ac i ddicter Gessler. Gofynna Gessler iddo beth oedd Tell yn bwriadu ei wneud gyda’r ail saeth, ymateb Tell yw ei fod wedi bwriadu lladd y Llywodraethwr petai’r saeth gyntaf wedi anafu ei fab. Mae Gessler yn gorchymyn i Tell a’i fab gael eu dienyddio, erfynia Mathilde ar ei brawd i beidio â llofruddio plentyn. Er gwaethaf y storm sy’n nesáu, mae Gessler yn cyhoeddi y bydd yn carcharu Tell yng nghastell Altdorf, cyn ei orfodi i lywio ei gwch ar draws y dyfroedd peryglus i Gaer Kusnac, lle y bydd yn cael ei daflu i mewn i’r dyfnderoedd dyfrllyd.
Act Pedwar
Mae Arnold yn benderfynol o barhau â’i fwriad o ddial ar Gessler a pherswadia ei gyd-ddynion i ymuno ag ef i geisio achub Tell. Daw Mathilde i ymuno â Hedwige, gwraig ofidus Tell a gyda’r merched eraill maen nhw’n penderfynu meddiannu’r castell lle mae Guillaume yn garcharor. Mae Jemmy mab Tell yna’n datgan fod Tell ar y cwch sydd ar ei ffordd i Kusnac, ond bod storm wyllt ar y llyn. Mae Hedwige wedi digalonni’n llwyr ac yn dechrau galaru am ei gŵr, ond yna daw’r cwch i’r golwg ar ôl i’r gwyntoedd cryfion newid ei gwrs. Cafodd Tell ei ryddhau o’i gadwyni er mwyn llywio’r cwch oddi ar y creigiau a llwyddodd i gyrraedd y lan yn ddiogel. Sylwa fod ei dŷ ar dân a chymryd hynny fel arwydd fod hi’n amser am wrthryfel, a chyn gynted ag y mae’n gweld Gessler mae’n ei saethu gyda’i fwa a’i saeth. Mae’r pentrefwyr yn poeni fod Castell Altdorf mewn dwylo Awstriaidd o hyd, ond mae Arnold yn cyrraedd gyda’i gydwladwyr ac yn cyhoeddi eu bod nhw wedi meddiannu’r castell. Mae Mathilde yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Swisiaid ac wrth i’r storm dawelu o’r diwedd, mae’r gwladgarwyr Swisaidd yn dod ynghyd i ddathlu prydferthwch natur a’u rhyddid.