Cavalleria rusticana & Pagliacci Mascagni & Leoncavallo
Archived: 2015/2016Trosolwg
Yn Haf 2016, mi oedd nodi 70 mlynedd o WNO yn amser i adlewyrchu. Pa ffordd well o wneud hyn na chyda’r bil dwbl a ddechreuodd y cyfan?
Y pâr perffaith hwn o drasiedïau oedd ein perfformiad cyntaf yn 1946. Mae Cav & Pag (fel yr adnabyddir hwy yn annwyl) yr un mor llawn a dwys ag y gall opera Eidaleg fod. Mae pob opera yn cynnwys cymaint o ddrama mawr a cherddoriaeth grymus mewn ychydig dros awr.
Mae uchafbwyntiau Cavalleria rusticana yn cynnwys yr Emyn Pasg ac Intermezzo gogoneddus. Mae Pagliacci yn cynnwys un o’r ariâu tenor gorau sef ‘Vesti la giubba’, lle mae’r clown Canio wedi sylweddoli bod ei wraig yn cael carwriaeth gudd. Mae yn oedi yn dosturiol ar ei sefyllfa wrth baratoi i fynd ar y llwyfan. Dylai actio’r ffŵl ar y llwyfan wrth farw y tu mewn. Mae’r set cyfnod moethus yn cynnwys ail-gread o sgwâr pentref Sisilaidd. Mae’n briodol bod y cast ar gyfer y perfformiadau pen-blwydd hyn yn cynnwys rhai o ddawn opera gorau Cymru.
Bydd pawb sy’n mwynhau ceinder a phasiantri opera eisiau cofleidio Cav & Pag.
Cefnogir gan WNO Idloes Owen Society
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeiltlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd)
Cavalleria rusticana: Tua un awr a 10 munud
Pagliacci: Tua un awr a 15 munud
Synopsis
Cavalleria rusticana
Ar Fore’r Pasg, mae yna gryn gynnwrf mewn pentref Sisilaidd. Mae Alfio y bugail yn llawn cenfigen pan mae’n clywed fod ei wraig wedi bod yn caru gyda Turiddu y merchetwr ifanc. Mae’r ddau yn mynd i ymladd gyda chyllyll, ac er y protestio gan fam Turiddu a’i gariad digalon Santuzza, daw'r diwrnod i ben gyda thywallt gwaed.
Pagliacci
Mae criw o actorion teithiol yn cyrraedd pentref yn ne’r Eidal, i berfformio eu drama ‘The Clown and the Columbine’, sy’n adrodd hanes dynes anffyddlon, sy’n cael ei chwarae gan y godinebwr go iawn Nedda. I Canio, ei gŵr cenfigennus ar ac oddi ar y llwyfan, mae’r eironi yn ormod i’w ddioddef, a daw'r perfformiad i ben mewn diweddglo trasig.