Figaro Gets a Divorce Elena Langer
Archived: 2015/2016Trosolwg
Hanner comedi, hanner drama wleidyddol iasoer, mae'r opera newydd yma yn datgelu beth ddigwyddodd ar ôl i Susanna a Figaro briodi...
Felly tybed a ydi teulu Almaviva wedi byw’n ddedwydd am byth? Ydi taranu pell y chwyldro yn Ffrainc wedi troi’n storm nad ydynt yn gallu dianc rhagddi? Sut un yw byd Figaro yn nwylo cyfansoddwr cyfoes?
Mae’r cwestiynau hyn wedi peri chwilfrydedd mawr i David Pountney. Cymaint felly fel ei fod wedi penderfynu cynnig rhai atebion. Mae wedi gwneud hyn drwy gomisiynu opera newydd gan Elena Langer ac wedi ysgrifennu’r libreto iddi. Gwelwn eiliadau doniol ac ingol law yn llaw yn yr opera hon sy’n hanner comedi, hanner drama wleidyddol iasoer. Mae Langer a Pountney wedi creu dilyniant hyfryd i glasur Mozart, yn deyrnged i ddewrder a dyfalbarhad dyn.
Mae cymeriadau The Marriage of Figaro ymhlith ffefrynnau’r byd opera. I’r rhai ohonom sydd wedi gweld yr opera o’r blaen, maent yn gallu teimlo fel pobl rydym yn eu hadnabod yn dda, ffrindiau hyd yn oed. Felly, mae Figaro Gets a Divorce yn aduniad unnos ac yn gyfle i gael cwmni’r hen ffrindiau yma unwaith eto.
The Independent
The Telegraph
The Times
Crynodeb o’r plot
Mae’r teulu Alamviva a’i gweision, y cwpl priodedig Figaro a Susanna, yn ffoi o chwyldro, pan maent yn cael eu hatal gan asiant cudd, Yr Uwchgapten.
Mae’r Uwchgapten yn penderfynol o ddinistrio’r teulu, ac yn datgelu i Iarll Almaviva fod ei fab, Serafin Almaviva, yw canlyniad carwriaeth fer rhwng yr Iarlless Almaviva a Cherubino, eu cyn-macyw, a fawroedd yn ystod y rhyfel, yn ol adroddiadau. Ar wahân, mae’r Uwchgapten yn datgelu i warchod y Iarll, Angelika, ei bod yn y canlyniad carwriaeth fer rhwng y Iarll a chyn was, Barbarina. Yn credu bod ei dyweddi, Serafin, mewn gwirionedd yn frawd iddi, does gan Angelika dim dewis ond i dderbyn cynnig Yr Uwchgapten i’w gymryd ef fel gwr yn lle Serafin.
Mae priodas Figaro a Susanna o dan straen. Susanna yn dirmygus o Figaro, sy'n gwrthod rhoi plentyn iddi, ac sydd wedi dychwelyd at ei grefft blaenorol fel barbwr i oroesi.
Mae hi’n cael perthynas gyda’r Ceriwb – perchnogwyr clwb nos sydd wir yn Cherubino – ni wnaeth farw yn ystod brwydr wedi’r cyfan. Mae’r Iarlles yn darganfod cynllun Yr Uwchgapten i ddinistrio’r teulu, ac mae Serafin ac Angelika yn sylweddoli nid ydynt yn brawd a chwaer wedi’r cyfan, ac felly yn gallu priodi.
Mae’r teulu yn ffoi Yr Uwchgapten ac yn y pen draw yn ol mewn castell Almaviva, sydd nawr yn gwallgofdy. Mae Cherubino yn cael ei saethu a'i ladd yn y tywyllwch. Mae Susanna yn feichiog gyda plentyn Cherubino, ond yn cymodi a Figaro. Mae’r teulu yn ceisio trechu’r Uwchgapten trwy ffugio gwallgofrwydd, ond pan maent yn ceisio ffoi, maent yn sylweddoli eu bod nhw wedi’i dal, gyda lluoedd chwyldroadol ar y ffordd. Mae’r Iarll yn dangos y bobl ifanc dihangfa, ond mae hi a’r Iarlles yn aros am eu tyngedd.
Co-production with Grand Théâtre de Genève.
Supported by The Boltini Trust, WNO Commissions Group and WNO Partners.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mi oedd Premier Byd y cynhyrchiad newydd ar ddydd Sul 21 Chwefror 2016, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Synopsis
Act Un
Mae ychydig o flynyddoedd wedi mynd heibio ers priodas Susanna y forwyn a Figaro y gwas, ac aduniad Cownt a Chowntes Almaviva. Mae gan y Cownt a’r Gowntes fab, Serafin ac mae’r Cownt wedi mabwysiadu a magu Angelika, sydd dan ei adain.
Mae chwe aelod o dŷ Almaviva ar ffo, yn dianc rhag chwyldro. Cânt eu dal a’u holi gan asiant gwasanaeth cudd, a adwaenir fel yr Uwchgapten. Mae gan yr Uwchgapten wybodaeth rymus ynghylch gorffennol y Gowntes, a roedd yn gydfilwr i’r Cownt.
Mae’r teulu Almaviva yn aros mewn cyrchfan foethus. Gydag anogaeth yr Uwchgapten, mae’r Cownt yn gorchymyn ei fab, Serafin, i fynd ac ymuno â’r fyddin. Mae Figaro a Susanna yn dadlau: mae Susanna eisiau plentyn, ond mae Figaro yn synfyfyriol gyda’i amheuaeth o’r Uwchgapten. Mae Figaro yn penderfynu gadael cyn y gall yr Uwchgapten ei gyhuddo. Mae Serafin ac Angelika, y cariadon ifainc, yn ofni y bydd y Cownt yn gwrthwynebu eu priodas.
Oherwydd pwysau ariannol, mae’r teulu Almaviva yn cael eu gorfodi i adael eu gwesty. Mae’r Uwchgapten, ‘trwy ddamwain’ yn caniatáu y Cownt i ddarganfod llythyr, sy’n datgelu tri pheth: cafodd y Gowntes berthynas gyda Cherubino, cyn facwy i’r Almavivas; Cherubino, nid y Cownt, yw tad Serafin; a lladdwyd Cherubin, a yrrwyd i’r fyddin gan y Cownt, wrth ymladd. Mae Figaro yn gwylio beth sy’n digwydd gyda diddordeb. Wedi ei danio gan ddicter, mae’r Cownt yn gorchymyn Serafin i fynd i frwydro yn syth, er protestiadau y Gowntes ac Angelika.
Mae Figaro, cyn farbwr, wedi agor siop wallt, ond mae busnes yn araf. Mae Susanna yn ei watwar am werthu, ond mynna eu bod yn cael plentyn. Pan mae Figaro yn gwrthod, mae Susanna yn ei adael.
Dywed yr Uwchgapten wrth Angelika ei bod yn blentyn siawns perthynas rhwng y Cownt a chyn forwyn, Barbarina. Felly ni chaiff ei phriodas â Serafin ddigwydd oherwydd eu bod yn frawd yn chwaer. Yn hytrach, mae’r Cownt wedi addo y dylai Angelika briodi yr Uwchgapten, sy’n tyngu Angelika i gyfrinachedd. Heria Serafin yr Uwchgapten ynghylch Angelika yn newid ei meddwl yn sydyn. Dywed yr Uwchgapten wrtho mai Angelika yw ei chwaer, felly dylai anghofio ei freuddwydion o briodas. Derbynia Serafin y dylai ymuno â’r fyddin, ond mae’n amheus o’r Uwchgapten.
Hysbysa’r Uwchgapten Susanna na all y teulu bellach fforddio ei chyflogi. Mae Susanna yn ffarwelio â’r Gowntes. Mae Angelika yn ddigalon.
Mae Susanna yn mynd i glwb nos sydd berchen ‘Y Cerub’, sef enw arall Cherubino, cyn gariad y Gowntes. Eglura y dywedodd gelwydd am ei farwolaeth arwrol ar faes y gad. Mae Susanna yn gadael gyda Cherubino, dan oruchwyliaeth yr Uwchgapten.
Mae’r Uwchgapten yn ymweld â salon Figaro i gael eilliad. Mae’n rhoi’r diweddaraf i Figaro am ffawd newidiol y tŷ Almaviva. Mae’n ei hysbysu y ceir Susanna yng nghlwb nos Y Cerub.
Yn y clwb nos, mae Susanna yn perfformio act cabaret gyda’r Cerub. Cyrhaedda Figaro yn feddw. Arestir y Cownt am ddyledion. Mae Susanna yn cyfaddef yn gyhoeddus ei bod wedi bod yn anffyddlon i Figaro.
Act Dau
Mae’r Gowntes yn herio’r Uwchgapten. Mae’n barod i ddatgelu’r gwirionedd ynghylch y berthynas i ryddhau ei hun o rym yr Uwchgapten.
Dychwel y Cownt o’r carchar, ac mae’r Gowntes yn datrys cynllun yr Uwchgapten. Mae Serafin ac Angelika yn darganfod nad ydynt yn frawd a chwaer, ac y gallant briodi wedi’r cyfan. Mae’r Cerub yn cwrdd â Serafin, ei fab, am y tro cyntaf. Datgela’r Cerub y newyddion fod yr Uwchgapten wedi cyhuddo’r teulu ac y dylent ffoi ar unwaith. Mae Figaro yn hwyluso eu dihangfa o bell.
Mae’r ffoaduriaid yn nesáu at gastell Almaviva. Saethir a lladdir Cherubino yn y tywyllwch.
Mae’r Uwchgapten yn asiant dwbl, yn gweithio i ddwy ochr y gwrthdaro chwyldroadol.
Mae’r castell Almaviva wedi ei droi i wallgofdy. Datgela Susanna ei bod yn disgwyl plentyn Cherubino, a ceisia gael aduniad anodd gyda Figaro. Mae’r tri chwpl yn honni bod yn gleifion yn y gwallgofdy i achub eu hunain rhag cael eu hadnabod gan yr awdurdodau. Mae’r Uwchgapten, wedi cuddio fel ‘Arolygydd Chwyldroadol’, yn cynnal rowndiau wardiau, ac yn gadael.
Sylweddola’r teulu eu bod mewn perygl, ond maent wedi’u caethiwo yn y castell. Datgela’r Cownt dramwyfa gyfrinachol i erddi’r castell, a arferai ymweld â hwy â mam Angelika, Barbarina. Mae Susanna, Figaro, Serafin ac Angelika yn dianc, ond penderfyna’r Cownt a’r Gowntes wynebu’r canlyniadau.