I puritani Bellini
Archived: 2015/2016Trosolwg
Cewch eich tywys i ffwrdd gan gerddoriaeth gyflym ac emosiynol Bellini.
Bydd pob un sy’n hoff o operâu Eidalaidd yn dwli ar bob un o'r ariâu hyfryd, deuawd teimladwy a chorws angerddol. Cewch eich tywys gan gerddoriaeth emosiynol a chyflym Bellini.
Mae llanw Rhyfel Cartref yn troi. Mae Elvira, merch yr arweinydd Piwritanaidd Gualtiero Walton, yn colli ei reswm pan fydd hi'n camgymryd bod ei chariad, Arturo, sy’n frenhinwr, wedi troi ei gefn arni am ferch arall. Pan fydd y cariadon yn aduno o'r diwedd, mae cyflwr meddwl Elvira yn dal i fod yn fregus, hyd yn oed pan mae buddugoliaeth Brotestannaidd yn cael ei gyhoeddi.
I puritani ydi'r diweddaraf yn ein rhestr 'bel canto' (canu prydferth). Mae'r cymeradwyaeth dros y perfformiadau yma yn dangos nad ydych yn gallu methu ar y cyfle prin yma i brofi un o gampweithiau o opera Eidalaidd.
Cynhyrchiad ar y cyd gydag Opera Den Jyske/Opera Cenedlaethol Denmarc
Cefnogir gan John Ward, Syndicet Bel Canto WNO, Peter a Veronica Lofthouse ac Ymddiriedolaeth Kobler
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae'r perfformiadau’n dechrau am 7pm, ac eithrio yng Nghaerdydd ddydd Sul 4 Hydref am 4pm