In Parenthesis Iain Bell
Archived: 2015/2016Trosolwg
.
Wrth nodi 70 mlynedd o WNO mae'n amser i edrych i'r dyfodol. Pa well ffordd i wneud hyn na gyda première byd opera mawr newydd? In Parenthesis yw addasiad Iain Bell, y cyfansoddwr ifanc Prydeinig, o’r gerdd epig gan y bardd, y llenor a’r artist Cymraeg, David Jones. Comisiynwyd In Parenthesis gan y Nicholas John Trust gyda 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol y Deyrnas Unedig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i’r Somme. Ym Mametz Wood maent yn dod ar draws teyrnas ryfedd - y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond yn angheuol. Yn hytrach nad dim ond adrodd straeon am erchyllterau’r Somme, mae In Parenthesis yn meiddio cynnig gobaith. Hyd yn oed yma, yng nghanol yr holl ddinistr, fe allwn weld blodeuo bregus adfywio ac aileni.
Mae sgôr hyfryd Bell yn cyfuno caneuon traddodiadol Cymreig gydag eiliadau arallfydol, erchyllterau, hiwmor a throsgynoldeb. Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn coffau ac yn dwyn i gof digwyddiadau’r Somme.
Mae opera yn gelfyddyd sy’n byw ac anadlu. Ond, er mwyn iddi barhau i dyfu ac esblygu, rydym angen i chi ymuno â ni ar gyfer yr hyn rydym yn gredu fydd yn waith mawr, pwysig newydd. I ddarganfod mwy am In Parenthesis a'r gerdd epig y mae'n seiliedig arno, ewch i'n gwefan inparenthesis.org.uk
Cafodd In Parenthesis ei ffrydio ar The Opera Platform am 7pm 1 Gorffennaf 2016.
Comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Nicholas John Gyda 14-18 NOW, the UK’s arts programme for the First World War centenary, chyda chymorth y Loteri Genedlaethol drwy Gynor Celfyddydau Lloegr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Cefnogir gan The John S Cohen Foundation, y Gwendoline and Margaret Davies Charity a WNO Commissions Group.
The Independent
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd)
Synopsis
Cyflwyniad
Mewn lle allan o amser, mae dau fardd – yn cynrychioli Britannia a Germania – a Chorws Coffa yn ystyried ‘y sawl dyn hardd’ a aeth i ryfel.
Maes Parêd, Lloegr, Rhagfyr 1915 Ymuna John Ball, Preifat ifanc yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a gweddill ei blatŵn ar barêd. Cânt eu ceryddu gan y Rhingyll Snell a’r Rhaglaw Jenkins am fod yn hwyr. Gorymdeithia Ball a’i gyd-filwyr – Is-gorporal Lewis, Preifat Watcyn, Preifat Wastebootom, a Dai Greatgoat – drwy’r glaw i ddociau Southampton. Profa Ball nifer o rithweledigaethau: yn y cyntaf ymddengys bod ei gyfeillion yn trawsnewid i gŵn hela, ac yn yr ail, pan ostyngir bompren eu llong i Ffrainc, teimla Ball fel eu bod yn mynd i borth yr isfyd.
Ffrainc, Rhagfyr 1915
Wedi cyfnod o orffwys, chwalir tawelwch cefn gwlad Ffrainc gan ffrwydrad. Dyma brofiad cyntaf y dynion o drais rhyfel. Parha rhithweledigaethau Ball wrth i’r dynion wneud eu ffordd tua’r Rheng Flaen am y tro cyntaf: iddo ef, mae’r Rhaglaw Jenkins fel Crist yn arwain ei ddefaid trwy’r anialwch. Gwylia’r Corws Coffa, wrth i’r platŵn gwrdd â’r Rhingyll Marne sydd wedi ei gaglo. Unwaith y maent wedi cyrraedd y Rheng Flaen, Ball a Lewis sydd yn gwylio.
Bore Nadolig, 1915
Gyda’r wawr, torrir y tensiwn pan mae milwr Almaeneg yn canu carol Nadolig. Ymateba’r platŵn trwy ganu yn Saesneg. Wrth i’r dynion fwynhau eu dognau brecwast, mae’r ddau filwr hynaf, Dai Greatcoat a’r Rhingyll Marne, yn dadlau ynghylch pwy sydd wedi ymladd mewn mwy o frwydrau, nes y mae morglawdd o ffrwydron yn tarfu arnynt.
Egwyl
Caffi / Pencadlys Milwrol, Mehefin 1916
Mewn caffi Ffrengig, mae’r dynion yn mwynhau diodydd a weinir gan farforwyn, o’r enw Alice. Ond teimla Ball argoel o farwolaeth. Derbynia’r dynion orchmynion i orymdeithio i’r de i’r Somme y noson honno. Wrth i’r dynion orymdeithio i’r ‘De Magnetig’, canant gân orymdeithiol, tra mae’r Corws Coffa yn atseinio geiriau yr arwrgerdd Gymreig hynafol, Y Gododdin.
Y Nullah, Somme, Gorffennaf 1916
O’u safle yn Nullah y Frenhines ger Coed Mametz, mae Ball a’i gyfaill Lewis yn rhannu ennyd o heddwch, cyn y daw’r gorchymyn i ymosod ar y Coed. Achosa bombardiad sydyn i Ball gael chwalfa nerfol. Tara ffrwydrad Lewis, gan ei ladd yn syth. Gyda’r wawr, clywir Corws o Dduwiesau’r Coed o fewn y goedwig. Gorchmynnir Ball a gweddill y dynion i fynd yn eu blaen i Goed Mametz. Saethir Jenkins, ac â gweddill o’r dynion i’r goedwig mewn anrhefn. Daw Brenhines y Goedwig a’i Duwiesau â marwolaeth a dinistr i’r goedwig a chymrodyr Ball. O fewn Coed Mametz, canfu Ball ei hun gyda Bardd Britannia. Mae’r Coed yn le o harddwch annisgwyl. Wrth i’r frwydr barhau, mae gweddill cymrodyr Ball yn marw, un wrth un, gan ei adael ef fel yr unig oroeswr. Saethir Ball yn ei goes, gan ei orfodi i gropian o’r goedwig gan adael ei wn ar ôl. Addurna Brenhines y Goedwig a’i Duwiesau y dynion meirw gyda blodau a gwyrddni, gan ddod ag adfywiad ac ail-eni gyda’u gweddïau.