Orlando Handel
Archived: 2015/2016Trosolwg
Nid yw Orlando yn syml yn dynodi cwymp dyn i mewn, ac adferiad, o wallgofrwydd; mae'n cwmpasu beth mae'n ei olygu i fod yn fod dynol.
Mewn byd chwedlonol o ysbrydion ac arwyr, mae Orlando, rhyfelwr ifanc sydd wedi torri’i galon, yn gwallgofi ac yn troi at drais wrth gael ei wrthod gan y Dywysoges Angelica, sy’n dewis dyn arall. Gydag ymyrraeth hud Zoroastro y Dewin, mae bywyd Angelica yn cael ei achub ac, yn y diwedd, caiff Orlando fod yn dawel ei feddwl unwaith eto.
Ychydig iawn o gyfansoddwyr sydd â’i ddealltwriaeth o gyflwr dyn mwy na Handel. Mae opera Handel yn cyffwrdd â’n henaid.
Mae llwyfannu llwyddiannus Harry Fehr yn diweddaru’r stori hon am ing mewnol i ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn Llundain. Wrth i Orlando dorri lawr yn yr Ail Act, mae awyrennau bomio marwol yn llenwi'r awyr wrth i'r Blitz gychwyn. Mae cynhyrchiad Fehr yn creu cymeriadau cymhleth a chyflawn mewn byd sy'n teimlo'n ddwys ac yn wir.
Cynhyrchiad Scottish Opera
Cefnogir gan Syndicet Bel Canto WNO a Chyfeillion WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae'r perfformiadau’n dechrau am 7.15pm, ac eithrio yng Nghaerdydd ddydd Sul 27 Medi am 4pm