Sweeney Todd Sondheim
Archived: 2015/2016Trosolwg
Cerddoriaeth a geiriau gan Stephen Sondheim
Llyfr gan Hugh Wheeler
O addasiad gan Christopher Bond
Cyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Harold Prince
Addasiad gwreiddiol i gerddorfa gan Jonathan Tunick
Ar ôl 15 mlynedd wedi’i garcharu ar gam, mae’r barbwr Sweeney Todd yn dychwelyd i Lundain ac yn chwilio am ei wraig a’i ferch. Mae’n colli ei feddwl pan mae perchennog siop basteiod, Mrs Lovett, yn dweud wrtho fod ei wraig wedi cael ei llofruddio a’i ferch wedi cael ei cham-drin gan Farnwr sinistr. Mae ei ymgyrch annymunol i ddial yn arwain at ddarganfyddiad torcalonnus.
Mae Sweeney Todd yn llenwi bwlch gydag ymgyrch waedlyd a dieflig i ddial. Nid dim ond cael eu heillio mae pawb sy’n galw heibio ei siop. Mae’r rhai anffodus yn eu plith yn cael eu rhoi ym mhasteiod amheus Mrs Lovett, yn ddim byd mwy na phryd o fwyd.
Mae campwaith Sondheim yn hynod ddoniol, yn hynod drist ac yn ddychrynllyd. Mae’n gweithio ar sawl lefel wahanol. Mae’n gymhleth ond bob amser yn gyffrous. Mewn golygfa gomedi wych, mae Mrs Lovett yn esbonio pam mai ei phasteiod hi yw’r rhai gwaethaf yn Llundain. Mewn golygfa arall, mae Sweeney yn dychwelyd at y llafnau eillio yr oedd wedi’u gadael ar ôl pan gafodd ei garcharu ar gam. Does dim llawer o olygfeydd fel hyn yn bod. Ar un llaw, mae’n codi ofn – mae Sweeney yn edrych ar y llafnau fel ei ffrindiau ac yn dechrau ymbellhau o’r byd go iawn - ond mae hefyd yn od o ingol. Mae diweddglo’r sioe gerdd yn dorcalonnus ond hefyd yn eithriadol gathartig.
Mae cynhyrchiad cynhyrfus James Brining wedi’i osod yn niwedd y 1970au/dechrau’r 1980au. Mae’n pwysleisio neges Sondheim nad dim ond Sweeney sy’n orffwyll. Yn ei thwyll a’i hanghydraddoldeb, mae cymdeithas yn gwbl orffwyll hefyd. Wrth wylio Sweeney Todd fe deimlwch chi ei bod yn tyrchu’n ddwfn i’ch cydwybod ac yn gwrthod gadael. Mae Sweeney Todd yn cynnig effaith emosiynol yr holl operâu mawr. Mae’n llawn haeddu cael ei pherfformio gan rym Corws a Cherddorfa.
Cynhyrchir yn wreiddiol ar Broadway gan Richard Barr, Charles Woodward, Robert Fryer, Mary Lea Johnson, Martin Richards mewn cydgysylltiad gyda Dean a Judy Manos
Cyflwynir y trefniant gyda JOSEF WEINBERGER LIMITED ar ran MUSIC THEATRE INTERNATIONAL o Efrog Newydd
Cyd-gynhyrchiad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a West Yorkshire Playhouse mewn cydgysylltiad gyda’r Royal Exchange Theatre
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg (cofiwch na fydd uwchdeitlau)
Bydd chwyddo ar y sain yn y cynhyrchiad hwn, yn unol ag arferion theatr gerddorol
Canllaw oed 12+