The Barber of Seville Rossini
Archived: 2015/2016Trosolwg
Dylai The Barber of Seville fod ar gael gan y GIG. Mae creadigaeth lawen Rossini yn fyrlymus ac optimistig, yn berffaith i godi calon rhywun.
Mae’r Iarll Almaviva wedi syrthio mewn cariad gyda Rosina, gwarchodes Doctor Bartolo. Mae Bartolo yn cadw Rosina o dan glo ac mae ganddo gynllun i’w phridoi er mwyn hawlio ei hetifeddiaeth. Mae’r Iarll yn awyddus i ennill cariad Rosina ar ei delerau ei hun, ac yn cadw ei hunaniaeth a’i gyfoeth yn gyfrinach, trwy guddwisgo ei hun fel 'Lindoro,' myfyriwr tlawd.
Gyda help Figaro, barbwr lleol, mae Almaviva yn mynd i mewn i dŷ Doctor Bartolo wedi cuddwisgo fel milwr meddw - ond mae'r cynnwrf dilynol yn dadfeilio ei gynlluniau. Er gwaethaf hyn, mae'r Iarll yn ffugio taw ef yw ‘Don Alonso’, y meistr cerddoriaeth sy’n galw yn lle Don Basilio, tiwtor canu arferol Rosina.
Mae'r cwpl ifanc yn gwneud cynlluniau i ddianc, ond maent yn cael eu clywed gan Bartolo. Mae Don Basilio yn ymddangos yn annisgwyl, ac mae'r ddau ddyn yn dod i'r casgliad mae’n rhaid mai 'Alonso' yw Iarll Almaviva mewn cuddwisg. Mae Bartolo yn dweud wrtho Rosina fod gan 'Lindoro' gynlluniau i’w chipio hi er mwyn mynd â hi at Iarll Almaviva.
Gyda’i chalon wedi torri, mae Rosina yn cytuno i briodi ei gwarcheidwad, Dr Bartolo. Mae Almaviva yn dychwelyd er mwyn dianc gyda Rosina ac yn datgelu ei wir hunaniaeth. Mae’r cwpl ifanc yn twyllo Don Basilio i fod yn dyst i’w priodas, ac mae Doctor Bartolo yn cael ei drechu unwaith ac am byth.
Mae’n gyflym heb arafu dim o’r dechrau un. Caiff pawb eu sgubo gan gorwynt o guddwisgoedd gwallgof, troeon annisgwyl ac ymyriadau annhebygol. Ar ddechrau Barber cawn agorawd sy’n ffefryn mawr gan lawer, yn ffraeth a chwareus tu hwnt.
Mae Figaro yn rhoi gwybod i ni mai ef yw’r un sy’n datrys problemau cymdeithas mewn aria ddoniol, wych, ‘Largo al factotum’. Mae aria ddisglair Rosina, ‘Una voce poco fa’, yn datgan yn glir iawn nad yw hi’n un i’w chroesi. Rydym wedi dewis cast eithriadol dalentog o berfformwyr comig, gan gynnwys y digymar Andrew Shore fel y barus Ddoctor Bartolo.
Dyma ein cynhyrchiad newydd cyntaf o The Barber of Seville ers bron i 30 mlynedd. Mae’n gyfle perffaith i fwynhau cynhesrwydd a haul yr opera lawen yma gyda chyfieithiad newydd disglair gan Kelley Rourke.
Cynhyrchiad ar y cyd gyda'r Grand Théâtre de Genève
Cefnogir gan Bartneriaid WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno) heblaw am adroddganeuon
Mae'r perfformiadau’n dechrau am 7.15pm
Synopsis
Act Un
Daw Fiorello, gwas i’r Cownt Almaviva ifanc, â band o gerddorion at ei gilydd wrth ffenest boneddiges anhysbys. Cyfeiliant i hwyrgan y Cownt Almaviva ifanc, sydd wedi cuddio ei hun fel ‘Lindoro’, myfyriwr tlawd, er mwyn dwyn perswâd ar y ferch ifanc ar ei delerau ef ei hun. Ni ateba, er cynnwrf swnllyd y cerddorion. Cwrdd y Cownt â barbwr lleol, Figaro. Mae’n ddyn prysur sy’n gwybod am holl sgandalau a straeon y dref. Dywed Figaro wrth y Cownt mai’r ferch y mae wedi bod yn hwyrganu iddi yw Rosina, a warchodir gan Doctor Bartolo, sy’n ei chadw hi a’i gwaddol hael dan glo. Mae hefyd yn bwriadu ei phriodi ei hun. Addawa’r Cownt i’w dwyllo. Ar gyngor Figaro, mae’n cuddio ei hun fel milwr meddw gyda gorchymyn i aros yn nhŷ Bartolo y noson honno.
Mae Rosina hefyd yn benderfynol o drechu ei gwarcheidwad. Mae ‘Lindoro’ wedi cipio ei chalon. Anoga Figaro Rosina i roi arwydd o’i hoffter i ‘Lindoro’. I syndod Figaro, cyflwyna Rosina lythyr iddo y mae wedi ei baratoi yn barod. Addawa’r barbwr i’w ddosbarthu.
Mae Doctor Bartolo yn amheus o Rosina. Dywed Don Basilio, tiwtor cerdd Rosina, wrtho fod y Cownt Almaviva wedi dangos diddordeb yn y ferch sydd dan ei adain. Yn ôl Basilio, does ond un ffordd i ddinistrio’r Cownt: athrod. Mae Bartolo yn chwilfrydig, ac addawa i briodi Rosina yn syth.
Cuddir Almaviva fel milwr meddw a dywed wrth Doctor Bartolo ei fod wedi cael ei orchymyn i leoli ei hyn yn nhŷ Doctor Bartlo am y noson. Yn y dryswch sy’n dilyn, rho Almaviva lythyr i Rosina. Mae’r sefyllfa yn dwysau ac mae cymaint o gynnwrf nes bod y cymdogion yn galw am yr heddlu. Arestir y milwr meddw – ond gollyngir y cyhuddiadau pan y datgela’r Cownt pwy ydyw mewn gwirionedd. Cytuna pawb bod yr olygfa yn ddigon i yrru unrhyw un i wallgofrwydd.
Act Dau
Yn ddi-droi’n ôl, cuddia Almaviva ei hun fel ‘Don Alonso’, athro cerdd a phrentis Don Basilio. Dywed wrth Doctor Bartolo fod ei feistr yn sâl ac y gwnaiff ddysgu gwers gerdd Rosina yn ei le. I sefydlu ei gymwysterau, dangosa’r llythyr a ysgrifennodd Rosina i Doctor Bartolo. Wrth i’r ‘wers gerdd’ ddechrau, cynllunia Rosina a’i châr cudd i ffoi i briodi y noson honno.
Cyrhaedda Figaro i eillio Doctor Bartolo, gan guddio ei allweddi yn sydyn. Cyrhaedda Basilio yn annisgwyl. Cyn iddo fedru datrys pwy yw ‘Don Alonso’ mewn gwirionedd, fe’i perswadir ei fod yn rhy sâl i ddysgu. Mae Doctor Bartolo yn ymlonyddu i gael ei ellio – ond clyw’r cariadon yn cynllunio ei fföedigaeth, a rhed ar eu hôl yn gandryll. Mae cyn forwyn Bartolo, Berta, wedi’i synnu at rym cariad.
Sylweddola Bartolo a Basilio mai’r Cownt Almaviva oedd ‘Alonso’. Ar orchymyn Bartolo, mae Basilio yn chwilio am notari. Syfrdana Doctor Bartolo Rosina gyda’r newydd mai asiant i’r Cownt Almaviva, a fwriada ei phriodi, yw ‘Lindoro’ mewn gwirionedd. Dangosa Rosina y llythyr a ysgrifennodd i Lindoro. Mae’n rhaid ei fod wedi ei drosglwyddo i’r Cownt Almaviva. Wedi ei llethu gan frad Lindoro, datgela’r cynlluniau y mae wedi wneud i ffoi i briodi gydag ef, a chytuna i briodi Doctor Bartolo. Yn ystod storm o fellt a tharanau, daw Figaro ac Almaviva i’r tŷ yn gyfrinachol. Mynna Rosina eu bod yn gadael, nes y dysga mai ei ‘Lindoro’, ‘Don Alonso’ a’r Cownt Almaviva yw’r un unigolyn. Ceisia’r cariadon hapus ddianc, ond cânt eu dal. Cyrhaedda Basilio gyda’r notari a wnaiff briodi Rosina i Bartolo. Cyrhaedda Bartolo i weld bod y ddau hapus yn briod.