The Marriage of Figaro Mozart
Archived: 2015/2016Trosolwg
Un 'diwrnod o wallgofrwydd' yng nghastell yr Iarll Almaviva - gyda cherddoriaeth gyfareddol a synnwyr digrifwch iach
Beth sy’n ein sbarduno ni i fwynhau? Roedd Mozart a’i libretydd da Ponte yn deall hyn yn well na’r rhan fwyaf o artistiaid mawr. Yn The Marriage of Figaro, mae Mozart yn cynnig cyfle i ni glustfeinio ar ddiwrnod ym mywyd teulu Iarll Almaviva.
Yn ystod yr opera, rydym yn dod i ddeall agenda, gwendidau, ffraethineb a chryfderau pob cymeriad. Hefyd, rydym yn gweld cip arnom ni ein hunain ym mhob cymeriad. Yn yr aria dorcalonnus ‘Porgi Amor’, mae’r Iarlles yn cael trafferth ymdopi â’r ffaith nad yw ei gŵr yn ei charu bellach o bosib. Yn ‘Hai già vinta la causa’, mae’r Iarll ei hun yn cael trafferth ymdopi â’r realiti bod ei fyd breintiedig yn mynd i newid am byth o bosib.
Wrth i’r opera dynnu at ei therfyn, mae’r Iarll yn gofyn am faddeuant ei wraig (ac mae’n debyg ei fod yn ddidwyll ar y pryd). Efallai y caiff pob problem ei datrys ond eto, ni allwn fod yn siŵr y bydd yn cadw at ei air. Y tu allan i waliau’r Castell, mae storm yn cyniwair, storm a fydd yn newid popeth am byth.
Mae The Marriage of Figaro yn cyflwyno cyfnod o amser i gynulleidfaoedd o genhedlaeth i genhedlaeth. Gyda cherddoriaeth gyfareddol a synnwyr digrifwch iach, yn fwy nag unrhyw ddarn arall o gelf ers ei chreu o bosib, mae Figaro yn portreadu gwir ystyr bod yn fyw.
Cynhyrchiad ar y cyd gyda'r Grand Théâtre de Genève
Cefnogir gan Bartneriaid WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Saesneg, heblaw adroddganeuon (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae'r holl berfformiadau’n dechrau am 7pm
Ffeithiau
Mae'r opera yma yn cymryd lle sawl blwyddyn ar ôl The Barber of Seville.
Mae'r stori wedi'i seilio ar gomedi llwyfan 1784, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ('The Day of Madness' neu 'The Marriage of Figaro').
Synopsis
Act Un
Mae’n ddydd priodas Susanna a Figaro, gwas a morwyn Cownt a Chowntes Almaviva. Wrth i’r ddau baratoi i symud i’w cartref priodasol newydd, mae Susanna yn poeni y bydd y Cownt yn ceisio adfywio hen arfer gelyniaethol o’r droit de seigneur, yn ôl y gall Arglwydd y tŷ fod y cyntaf i gysgu gyda’r briodferch ar noson ei phriodas. Pan ddysga Figaro am gynlluniau’r Cownt, addawa i ddysgu gwers i’w feistr.
Trafoda ceidwad y tŷ Marcellina ei chytundeb priodas â Bartolo. Mae’n rhaid i Figaro ad-dalu yr arian y mae arno iddi, neu ei phriodi. Mae meddyg y tŷ, Doctor Bartolo wrth ei fodd yn ei chynorthwyo a dial ar Figaro – y cyn farbwr a rwystrodd iddo briodi Rosina, sydd yn awr yn Gowntes. Cyfnewidia Marcellina a Susanna enllibion. Gwawdia Marcellina Susanna am ddiddordeb y Cownt ynddi. Daw Cherubino, macwy llencynnaidd, i weld Susanna oherwydd bod y Cownt wedi ddiswyddo am gyboli gyda Barbarina y forwyn. Datgana Cherubinio ei gariad at holl ferched y tŷ – ac yn benodol y Gowntes. Cuddia pan ddaw y Cownt, gyda’r bwriad o hudo Susanna. Ond cuddia ef hefyd pan ymddengys Don Basilio, yr athro cerdd. Dywed Don Basilio y buasai’n well ganddi fod gyda’r Cownt na chyda Cherubino, sydd hefyd a’i lygad ar y Gowntes. Ailymddangosa’r Cownt gan orchymyn i Basilio ganfod Cherubino. Canfu’r Cownt Cherubino. Ond gan sylweddoli bod y bachgen wedi clywed popeth, mae methu â’i gosbi.
Mae Figaro wedi cynullo y tŷ cyfan i ganu clodydd eu meistr ar gyfer ildio ei hawl ar Susanna ar noson ei phriodas. Mae’n gofyn i’r Cownt fendithio eu priodas. Mae’r Cownt yn ildio ei ymateb trwy orchymyn i Cherubino ymuno â’r fyddin. Mae Figaro yn gwawdio Cherubino am ei fywyd fel milwr sydd ar y gweill.
Act Dau
Mae’r Gowntes yn drist oherwydd cred nad yw ei gŵr bellach yn ei charu. Dywed Susanna wrthi bod y Cownt wedi ceisio ei hudo. Gydag anogaeth Figaro a Susanna, cytuna’r Gowntes i gynllunio yn erbyn y Cownt, gyda llythyrau di-enw yn ei rybuddio o’i haseiniadau. Cynlluniant i ddatgelu’r Cownt trwy guddio Cherubino fel Susanna, a’i yrru i gwrdd â’r Cownt. Yna mae’r Gowntes yn dal ei gŵr wrth iddo geisio hudo ‘Susanna’. Dechreua Susanna a’r Gowntes wisgo Cherubino, ond mae’n rhaid iddo guddio’n sydyn wrth i’r Cownt ddod. Mae’r Cownt yn amheus o’i wraig pan glyw sŵn rhyfedd yn dod o guddfan Cherubino. Mae’r Cownt yn amau mai cariad y Gowntes sy’n cuddio. Gadawa’r Cownt gyda’r Gowntes. Yn yr amser hwnnw, mae Susanna yn gallu cynorthwyo Cherubino i ddianc a newidia le gydag ef. Mae’r Cownt yn fud pan ddaw Susanna o’r guddfan. Mae’r Gowntes yn ei herio am ei ymddygiad amheus ac erfynia’r Cownt am ei maddeuant. Pan ymddengys Figaro, heria’r Cownt ef am y llythyr anhysbys a dderbyniodd a gwada Figaro ei fod yn gwybod dim am y peth.
Adrodda’r garddwr, Antonio, y gwelodd rywun yn rhedeg o ystafelloedd y Gowntes, gan amau Cherubino. Mae Figaro yn byrfyfyrio yn sydyn gan ddweud mai ef ydoedd. Gyda chymorth Susanna a’r Gowntes, mae bron â llwyddo yn ei stori, hyd nes mae Marcellina yn mynnu bod Figaro yn ei phriodi ar gyfer ad-dalu’r benthyciad. Addawa’r Cownt i edrych ar y cytundeb.
Act Tri
Fel rhan o gynllun newydd i dwyllo’r Cownt, a chydag anogaeth y Gowntes, mae Susanna yn trefnu i gwrdd â’r Cownt yn gyfrinachol y noson honno. Pan glyw Figaro a Susanna yn cynllunio â’i gilydd, mae’r Cownt yn addo dial. Mynna Marcellina, gyda chefnogaeth cyfreithiwr, Don Curzio, bod Figaro yn ei phriodi. Ymateba Figaro trwy ddweud heb ganiatâd ei rieni – y mae wedi bod yn chwilio amdanynt am flynyddoedd – ni all ei phriodi. Gwêl Marcellina fan geni ar fraich Figaro, a sylweddola mai ef yw ei mab coll. Datgela i Figaro mai ei dad yw Dr Bartolo. Gwêl Susanna yn cofleidio Marcellina. Mae’n wyllt gacwn nes y dealla mai Marceillina yw ei fam. Cytuna Marcellina a Bartolo i briodi. Cynllunia’r Gowntes a Susanna i gywilyddio’r Cownt. Arddywed y Gowntes nodyn i Susanna a gadarnha ei gyfarfod arfaethedig gyda Susanna y noson honno. Seliant y nodyn â phin.
Dywed Antonio wrth y Cownt nad yw Cherubino wedi mynd i’r rhyfel ac ei fod yn rhywle yn y tŷ wedi gwisgo fel dynes. Achubir Cherubino rhag cosb y Cownt gan y forwyn, Barbarina. Mae’n twyllo’r Cownt trwy ei orfodi i fendithio ei phriodas â Cherubino. Wrth i’r briodas ddwbl fynd yn ei blaen, mae Susanna yn rhoi’r nodyn i’r Cownt, sy’n pigo ei fys ar y pin sydd ynghlwm iddo.
Act Pedwar
Mae Barbarina wedi colli’r pin yr oedd hi fod i ddychwelyd i Susanna, gan gadarnhau cyfarfod y Cownt â hi. Mae Barbarina yn sicrhau cymorth Marcellina a Figaro i’w ganfod. Daw Figaro i’r casgliad bod Susanna yn anffyddlon iddo a tynga i ddial ar ei wraig newydd. Cyrhaedda Susanna a’r Gowntes, wedi’u gwisgo yn nillad ei gilydd, a chuddia Figar. Ceisia Cherubino i hudo ‘Susanna’, ond fe’i erlidir gan y Cownt, sydd eisiau bod ar ei ben ei hun gyda hi. Â’r Cownt â ‘Susanna’ i ffwrdd a gelwir Figaro gan y ‘Gowntes’ – sef Susanna, sy’n gwisgo dillad ei meistres. I ddechrau twyllir Figaro, ond sylweddola mai Susanna ydyw. Penderfyna i droi’r fantol yn ei herbyn gan honni ei fod yn canlyn y ‘Gowntes’. Mae Susanna yn gandryll ond pan ddatgela ei fod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen, maddeuir popeth. Pan ddaw’r Cownt i chwilio am ‘Susanna’ penderfynant i dwyllo’r Cownt unwaith eto. Datgana Figaro ei gariad i’r Gowntes’, er mawr dicter i’r Cownt. Galwa ar bawb i dystio i anffyddlondeb ei wraig. Datgela y Gowntes ei hun, a chywilyddir y Cownt. Erfynia am faddeuant ei wraig. Mae’n ei roi. Mae’r tŷ yn uno mewn dathliad o ddydd y briodas ddwbl.