Kiss Me, Kate Porter
Archived: 2016/2017Trosolwg
Cerddoriaeth a Geiriau: Cole Porter
Llyfr: Bella a Samuel Spewack
Argraffiad Beirniadol: David Charles Abell a Seann Alderking
Noson agoriadol addasiad cerddorol o The Taming of the Shrew yn Baltimore yr 1940au. Mae’r ymarferion ar ben, y gwisgoedd yn eu lle a dim ond 10 munud tan i’r llen godi. Mae’r hyn yr ydych chi ar fin ei dystio yn fwy na stori garu gomig Shakespeare…
Mae’r seren Lilli Vanessi yn gyn-wraig i un o hoelion wyth y sioeau mawr, Fred Graham sy’n disgyn mewn cariad â’r ferch fflyrtiog ifanc, Lois Lane. Yn y cyfamser, mae cariad Lois, Bill yn mynd i ddyled (o dan enw Fred) sydd bron â’i arwain at farwolaeth wrth iddo wynebu pâr o ddynion rhyfygus. Mae’r straeon yn datblygu ar ac oddi ar y llwyfan wedi’u plethu’n gelfydd mewn sioe gerdd glasurol gan Cole Porter.
Gyda llond llwyfan o ffraethineb, dawns a chaneuon bythgofiadwy sy’n cynnwys 'Another Op’nin’, Another Show', 'Brush Up Your Shakespeare' ac 'Always True to You in My Fashion', bydd Kiss Me, Kate yn sicr o wneud i unrhyw 'Tom, Dick or Harry' wenu o glust i glust.
Mae Kiss Me, Kate yn cyn-cynhyrchiad â Opera North.
Mae'r gerddoriaeth sy'n cael ei defnyddio mewn ein hysbysebion radio yn cael ei chwarae gan gerddorfa Opera North.
Defnyddiol i wybod
Mae perfformiadau yn dechrau am 7.30pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 2 Hydref am 4pm, a Birmingham Hippodrome 12 Tachwedd a Chanolfan Mileniwm Cymru 8 a 10 Rhagfyr am 2.30pm