La bohème Puccini
Archived: 2016/2017Trosolwg
Need Translation: Annabel Arden’s sensitive and insightful production is like meeting Mimì, Rodolfo and friends for the first time, even if we’ve seen this utterly romantic opera before.
Mae pedwar ffrind (sy'n artistiaid llwm eu byd) yn byw mewn taflod ym Mharis: Rodolfo, Marcello, Schaunard a Colline. Ar Noswyl Nadolig, â'r cyfeillion eraill wedi mynd i Café Momus, daw eu cymydog, Mimì, i ymweld â Rodolfo ac fe syrthiant mewn cariad. Yn y cyfamser, daw Marcello a Musetta, sy'n gariadon bob yn ail â pheidio, yn ôl at ei gilydd. Mae Rodolfo yn mynd yn eiddigeddus ac yn feddiannol o Mimì, sydd yn dioddef salwch ac yn anhapus. Yn anfoddog, maent yn cytuno i wahanu. Fisoedd yn ddiweddarach, daw Mimì yn ôl i'r daflod â'i hiechyd wedi dirywio'n enbyd. Mae'r cyfeillion yn gofalu amdani orau gallant, ond mae'n rhy hwyr.
Pan berfformiwyd cynhyrchiad sensitif a chraff Annabel Arden am y tro cyntaf yn 2012, fe'i croesawyd â breichiau agored gan gynulleidfaoedd a beirniaid. Mae’n ddarlun byw o fywyd bohemaidd ym Mharis, wedi’i wella drwy thafluniadau awyrgylchol. Mae’r cynhyrchiad hwn yn gwneud i ni feddwl ein bod yn cwrdd â Mimi, Rodolfo a chyfeillion am y tro cyntaf hyd yn oed os ydym wedi gweld yr opera hollol ramantus hon o’r blaen.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae perfformiadau yn dechrau am 7.15pm Byddwn yn perfformio La bohème Nhŷ Opera Dubai o 9 - 11 Mawrth fel rhan o UK/UAE 2017