Le Vin herbé Martin
Archived: 2016/2017Trosolwg
Ar y cyd â gweithiau cyfarwydd La bohème a Madam Butterfly, rydym hefyd yn cynnig rhywbeth bach gwahanol yng Ngwanwyn 2017. Bydd llawer o fynychwyr opera yn gyfarwydd â Tristan und Isolde Wagner ond mae opera agos atoch Frank Martin yn rhoi gogwydd arall ar y chwedl. Addawa’r cynhyrchiad hwn o drasiedi cain a chelfydd sydd prin wedi’i lwyfannu i fod yn brofiad gwirioneddol wych. Mae Tristan ac Iseult yn elynion sy'n dod at ei gilydd wrth iddynt yfed diod serch ar ddamwain. Mae eu perthynas yn arwain at dresiedi anochel.
Mae Esyllt Deg, Tywysoges yr Iwerddon, yn cael ei chymryd dros y môr i briodi March, Brenin Cernyw, gan Trystan, ei nai. Teimlai’n isel iawn ei hysbryd ac mae’n casáu Trystan am ei dwyn oddi wrth ei mamwlad ac am ladd ei darpar wˆr mewn brwydr. Yn ystod y daith mae’r ddau, ar gam, yn yfed diod serch hud a gymysgodd mam Esyllt ar gyfer Esyllt a March ar noson eu priodas. Syrthia Trystan ac Esyllt yn ddiobaith ac yn ddiwrthdro mewn cariad.
Mae’r cariadon yn rhedeg i ffwrdd o lys y Brenin March i fyw yn y gwyllt. Daw March ar draws y ddau yn cysgu ond nid yw yn eu niweidio. Mae Trystan ac Esyllt yn difaru am y drwg y maent wedi ei achosi i eraill a'u hunain. Dychwel Esyllt i’r Brenin March a Trystan i Lydaw, ei famwlad.
Ar ôl blynyddoedd prioda Trystan Esyllt Law Wen. Pan gaiff Trystan ei glwyfo yn farwol mewn brwydr, hiraetha i weld Esyllt Deg am un tro olaf. Dychwel hi ato ond yn rhy hwyr; mae Trystan wedi marw. Gorwedda Esyllt i lawr i farw wrth ei ochr.
The IndependentSublimely sung … a vividly poignant marriage of music and theatre
Defnyddiol i wybod
Bydd perfformiadau yn dechrau am 7.15pm