Madam Butterfly Herz
Archived: 2016/2017Trosolwg
Need translation: A classic, traditional staging of this much-loved opera.
Mae Madam Butterfly Joachim Herz wedi bod gyda ni am dros dri degawd ac am reswm da. Mae’n lwyfaniad clasurol a thraddodiadol o’r opera boblogaidd hon. Tra’n gyfan gwbl ffyddlon i fwriadau’r cyfansoddwr, mae hefyd yn trafod imperialaeth yn rymus. Edrycha pob golygfa fel ffotograff sepia lle cawn gipolwg ar fyd diflanedig.
Cefnogir gan Gyfeillion WNO
Mae menyw Japaneaidd ifanc, Cio-Cio-San (Madam Butterfly), wedi cydsynio i briodas wedi'i threfnu gyda'r Is-Gapten Pinkerton o Lynges yr Unol Daleithiau. Mae hi'n cymryd y briodas o ddifrif ac yn syrthio mewn cariad, ond iddo ef, dim ond ychydig o hwyl ydyw, i'w ddifyrru tra'i fod ar ddyletswydd yn Japan. Gan adael ei wraig ar ei ôl, aiff Pinkerton i ffwrdd am dair blynedd ac yn ystod yr amser hwnnw, mae Cio-Cio-San yn geni ei blentyn ac yn byw mewn tlodi. Daw Sharpless, is-gennad America i dorri'r newydd iddi bod Pinkerton wedi dychwelyd, ond bod gwraig newydd, Americanaidd gydag ef. O glywed am y plentyn, penderfyna Pinkerton a Kate y dylent ei fabwysiadu. Mewn anobaith, a chan wybod y byddant yn gallu gofalu amdano'n well nag y gall hithau, mae Butterfly yn rhoi'r ffarwel olaf i'w mab ac yn ei lladd ei hunan.
Supported by WNO Friends
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg
Mae perfformiadau yn dechrau am 7.15pmm