

Die Fledermaus Johann Strauss II
Archived: 2017/2018Trosolwg
Mae Rosalinde yn edrych ymlaen at ychydig o ddyddiau diofal gyda’i chariad, tra mae ei gŵr yn wynebu cyfnod mewn carchar. Gofynna ei morwyn i gael ei hesgusodi er mwyn gofalu am fodryb oedd yn sâl.
Mewn gwirionedd mae’r pedwar cymeriad yn cynllunio treulio’r noson mewn dawns fasgiau odidog a chynhaliwyd gan y tywysog. Wrth i’r cymeriadau ddod ynghyd mewn gwisgoedd amrywiol, gosodwn yr olygfa am stori ddoniol o gamgymryd hunaniaeth yn llawn ysblander, ffrogiau crand a masgiau.
Yn canolbwyntio ar y ddawns ysblennydd, mae digwyddiadau Die Fledermaus wedi’i gosod i sgôr gyfoethog a rhamantus gan Johann Strauss II. Mae’n cynnwys rhai o’r melodïau mwyaf anorchfygol ag ysgrifennwyd erioed ar gyfer y llwyfan. Arweinir y cast gan Judith Howarth a Paul Charles Clarke yn ffres o’u rolau blaenllaw ym Madam Butterfly ar gyfer WNO ym mis Mehefin 2017.
Cefnogir gan Gymdeithas Idloes Owen WNO




Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gyda uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Adywiad