Don Giovanni Mozart
Archived: 2017/2018Trosolwg
Mae Don Giovanni trahaus a charismataidd yn hudo ei ffordd o amgylch Ewrop.
Mae’n cymryd beth mae ei eisiau ac yn byw am chwant, heb gydwybod. Pan lofruddiwyd un o’i gariadon, ymddengys bod ei lwc am newid. Mae’n canfod ei hun ar ffo, yn cael ei ddilyn gan hen gariadon a dyweddïau anfodlon a grym o du hwnt i’r bedd. Ond pan wrthoda dangos edifeirwch, mae dial yn anochel. Arweinia at ei ddiwedd yn y pen draw.
Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru wedi’i leoli yn Oes Aur Sbaen. Adlewyrcha Mozart gomedi a thrasiedi yn wych yn y sgôr. Mae hyn yn cynnwys yr aria ‘Catalogue’ sy’n manylu ar 2065 o gariadon Giovanni, yr aria ‘Champagne’ befriog a drama fawr y diweddglo gwefreiddiol.
Cefnogwyd gan Idloes Owen Society
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Adfywiad
Mae perfformiadau yn dechrau am 7pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 24 Chwe am 4pm