Eugene Onegin Tchaikovsky
Archived: 2017/2018Trosolwg
Mae Tatyana yn eneth ifanc o’r wlad sy’n argyhoeddedig mai Onegin yw dyn golygus ei breuddwydion.
Pan mae’n datgan ei hymroddiad iddo drwy lythyr caru, mae’n ei gwrthod a’i chywilyddio. Mae Onegin yna’n hoetio ar ôl chwaer hynaf Tatyana sydd wedi dyweddïo. Mae hyn yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau trasig. Ceir chwedl am gariad annychweledig a’r ffyrdd y gall byd y boneddigion wrthdaro’n drychinebus.
Dyma opera fwyaf poblogaidd Tchaikovsky, ac mae’n seiliedig ar nofel Alexander Pushkin o’r un enw. Mae lleoliadau cefn gwlad syml a chlasurol yn cyferbynnu â golygfeydd yn yr ystafell ddawns hardd a gwisgoedd cyfoethog sy’n adlewyrchu byd y boneddigion yn y cyfnod. Mae’r hanes ingol hon yn arddangos y frwydr rhwng dyheadau’r galon a chonfensiwn cymdeithasol. Ceir hyn oll mewn cytganau ac ariâu hynod ramantus ac atgofus.
British Theatre GuideAs ever, the singing of the WNO Chorus was a delight.
What's On StageIt is one of the performances of the year.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Rwsieg, gydag isdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno).
Mae perfformiadau yn dechrau am 7pm