From the House of the Dead Janáček
Archived: 2017/2018Trosolwg
Wedi’i leoli mewn carchar clawstroffobaidd yn Siberia, mae cynhyrchiad David Pountney o From the House of the Dead yn gollage ysgogol o hanesion y carcharorion wrth iddynt adrodd pam y bu iddynt gael eu rhoi yn y carchar.
Yn ystod cyfnod o ormes gwleidyddol, mae bob chwedl unigol yn archwilio’r eithafoedd yr aiff unigolyn i unioni cam. Daw llygedyn o obaith ar ffurf eryr mawr y mae’r carcharorion yn ei wella yn ofalus. Daw hyn yn symbol o Rwsia ond hefyd o ryddid ynddo’i hun.
The Stagea breathtaking combination of rawness and gentleness
The TelegraphTomáš Hanus, a native of Janáček’s home town Brno, must have the truth of this opera in his blood and bones, if you are serious about opera, it’s unmissable.
Bu i Janáček seilio’r gerddoriaeth a’r libreto ar atgofion lled-hunangofiannol yr awdur Dostoyevsky o Rwsia. Gwnaeth ef ei hun oroesi’r criw saethu o ganlyniad i ohirio dienyddiad dan law y Tsar. Ar lwyfan dilynwn hanes nifer o gymeriadau drwy gast a chorws ensemble, ond y prif gymeriad mewn gwirionedd yw Cerddorfa WNO, dan arweiniad Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth newydd WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Saesneg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae perfformiadau yn dechrau am 7.30pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Hyd am 4pm