

Khovanshchina Musorgsky
Archived: 2017/2018Trosolwg
Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, aiff Khovanshchina â ni’n ôl i Rwsia yn yr 17eg ganrif lle mae’r wlad mewn cythrwfl.
Ymuna’r pendefig Khovansky â’r Hen Gredinwyr wrth iddynt wrthryfela yn erbyn diwygiad modern sy’n cael ei orfodi gan y Tsar. Wrth i uchelgeisiau personol a gwleidyddol gyfuno a gwrthdaro gyda grymoedd cyfansoddiadol a chrefyddol, bydd y frwydr am rym yn arwain at ganlyniadau marwol.
The StageUnmissable
Daw David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNO, a Tomáš Hanus, y Cyfarwyddwr Cerdd newydd at ei gilydd ar gyfer yr adfywiad hwn o opera epig Musorgsky. Mae’n trin themâu fel gwleidyddiaeth, gwallgofrwydd a marwolaeth sydd mor berthnasol heddiw ag yr oedd mewn hanes. Wedi’u cyfuno â llwyfannu trawiadol a cherddoriaeth gorawl fythgofiadwy, addawa i fod yn ddigwyddiad na ellir ei golli yn Nhymor yr Hydref.
Tomáš Hanus conducts with passion’




Defnyddiol i wybod
Cenir yn Rwsieg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae perfformiadau yn dechrau am 7pm