La forza del destino Verdi
Archived: 2017/2018Trosolwg
Mae marwolaeth ddamweiniol yn gorfodi Don Alvaro a Leonora i ffoi; ble maent yn dysgu ni ellir dianc o rym ffawd.
The TimesA bold, convincing piece of theatre … with stunning orchestral playing
Cynllunia Don Alvaro a Leonora hardd i ddianc a phriodi ond pan gaiff ei thad ei ladd gan fwled grwydr o wn Alvaro, mae’n gychwyn ar gadwyn o ddigwyddiadau anochel. Wedi’u gorfodi i ddianc gan eu bod yn cael eu herlid gan ei brawd, sydd wedi tyngu dialedd, teflir y cymeriadau at ei gilydd a’u gwahanu mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n gyd-ddigwyddiad. Mae presenoldeb arallfydol a di-hid Preziosilla yn atgoffa na ellir atal grym tynged.
Adroddir opera epig Verdi drwy sgôr fywiog sy’n cynnwys yr Agorawd sy’n gyfarwydd yn syth. Defnyddir hi mewn sgorau ffilm clasurol a hysbysebion. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn nodi dechrau partneriaeth tair blynedd gyda Theatr Bonn i ddod â chynyrchiadau newydd o rai o operâu gorau Verdi i’r llwyfan. Cyfarwyddir gan David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNO. Arweinir gan Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO.
Noddwr Trioleg Verdi: Mr Pasquale Terracciano, Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal
Cefnogwyd gan Gyngrhair Verdi WNO
Cefnogwyd gan Kobler Trust
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae perfformiadau yn dechrau am 6.30pm