Tosca Puccini
Archived: 2017/2018Trosolwg
Efallai bod gan Floria Tosca lawer o edmygwyr, ond does ond ganddi lygad am un dyn, sef y peintiwr Cavaradossi. Ond mae gan Scarpia, Pennaeth yr Heddlu maleisus, syniadau eraill a’i heisiau iddo ef ei hun. Wrth iddo gynllunio i dwyllo’r cariadon a chael beth mae ei eisiau, datblyga digwyddiadau dramatig a thrasig. Mae’n gadael Tosca ar ei phen ei hun yn dal dagr yn ei dwylo gwaedlyd. Ceir tro olaf syfrdanol i ddilyn.
Mae cefndir cythryblus Rhufain yn ystod goresgyniad Napoleon yn lleoliad addas ar gyfer yr hanes gwefreiddiol hwn am gariad, chwant, ffyddlondeb a llygredd. Nodwedda Puccini’r ddrama drwy ei felodïau ac offeryniaeth gain. Ceir hefyd ariâu gwych sydd wedi gwneud Tosca yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd.
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Adfywiad
Mae perfformiadau yn dechrau am 7.15pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 11 Chwe am 4pm, ym Mayflower Theatre, Southampton ar 24 Maw am 4pm ac yn Theatre Royal Plymouth ar 31 Maw am 2pm