

RHYDDID 360
Archived: 2018/2019Trosolwg
Bydd Opera Cenedlaethol Cymru a'r BBC yn cyflwyno gosodwaith trochi newydd, gan adlewyrchu straeon a theithiau personol y ffoaduriaid sy'n gwneud y penawdau.
Mae dros 60 miliwn o bobl wedi'u dadleoli ar draws y byd. Y tu ôl i'r penawdau newyddion, mae gan unigolion a theuluoedd straeon o golled, gobaith, ofn, dicter a diolchgarwch. I rai, Cymru yw'r lle sy'n cynrychioli'r diogelwch a'r rhyddid y maen nhw'n chwilio amdanynt, i eraill mae'n dwyn i gof atgofion chwerw-felys o'r mamwledydd y bu'n rhaid iddynt eu gadael. Bydd Opera Cenedlaethol Cymru a'r BBC yn cyflwyno gosodwaith trochi newydd, gan adlewyrchu straeon a theithiau personol y ffoaduriaid sy'n gwneud y penawdau.


Defnyddiol i wybod
Crewyr y Prosiect: BBC Cymru Wales, Ymchwil a Datblygu'r BBC, Opera Cenedlaethol Cymru

Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.