

The Girls of Room 28
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae’r arddangosfa’n adlewyrchu stori ‘The Girls of Room 28’ gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol
Crëwyd yr arddangosfa The Girls of Room 28, L 410 Theresienstadt yn 2004 yn yr Almaen i wireddu dymuniad goroeswyr i gofio’r merched a fu’n byw gyda nhw yn ystafell 28 ac a lofruddiwyd yn yr Holocaust. Roddent hefyd am anrhydeddu’r oedolion hynny yn y Geto a ofalodd amdanyn nhw ac a drosglwyddodd eu gwybodaeth a’u dyngarwch iddynt yn ogystal â’u gobaith am ddyfodol gwell.
Mae’r arddangosfa’n adlewyrchu stori ‘The Girls of Room 28’ gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol - dyddiadur, llyfr lloffion, llyfr nodiadau, cerddi, llythyrau, traethodau, lluniau, darluniau - adleisiau o fywydau ifanc, bywydau a gollwyd yn ogystal â’r rhai a oroesodd.
Defnyddiol i wybod
Mynediad am ddim. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.
Partner: Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.