La traviata Verdi
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae'r gwrthdaro rhwng dyletswydd a chariad wedi gwneud La traviata yn un o hoff operâu cynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae Alfredo, wedi disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda'r butain llys Violetta, er mawr siom i’w dad, Germont. Heb yr un geiniog ac yn ofni y bydd hi'n marw’n fuan, mae Violetta yn cytuno i adael Alfredo am ei bod yn credu mai dyma sydd orau iddo. Dim ond pan mae’n clywed bod Violetta ar ei gwely angau y mae Germont yn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac yn cyfaddef popeth i Alfredo. Ond ydi hi’n rhy hwyr?
Mae'r gwrthdaro rhwng dyletswydd a chariad wedi gwneud Latraviata yn un o hoff operâu cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae'r cynhyrchiad clasurol yma gyda’r gwisgoedd ysblennydd o ganol y 19eg ganrif yn cynnwys cerddoriaeth fwyaf gwefreiddiol Verdi, gan gynnwys y Brindisi (y gân yfed) - un o'r melodïau mwyaf adnabyddus yn opera.
Cyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera, Grand Teatre del Liceu , Barcelona a Teatro Real, Madrid
Buzz
Western Mail
Morning Star
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Wedi'i osod ym Mharis yn yr 19eg Ganrif
Ffeithiau
La traviata ydi’r opera mwyaf poblogaidd yn y byd.
Fe wnaeth Anush Hovhannisyan a Kang Wang cymryd rhan yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd BBC yn 2017.
Mae La traviata yn cael ei gyfeirio at sawl gwaith yn y ffilm Pretty Woman. La traviata ydi’r opera mae Edward yn cymryd Vivian i weld a pan mae’n gyrru yn ei limo i’w swyno ar ddiwedd y ffilm, mae’n chwarae darn o gerddoriaeth o’r opera. Hefyd mi oedd yn ysbrydoliaeth i Moulin Rouge gan Baz Luhrmann.
Pan welodd y nofelydd Marcel Proust berfformiad o La traviata am y tro cyntaf, ysgrifennodd: 'Aeth y gwaith yb syth at fy nghalon. Mae Verdi wedi dod â steil i La Dame aux Camélias nad oedd ynddi ynghynt... we mwyn i waith dramatig gyffwrdd â theimlad poblogaidd, mae ychwanegu cerddoriaeth yn hanfodol.'
Synopsis
Mae Violetta, courtesan sy’n cael ei gwarchod gan y Barwn Douphol, yn cynnal parti. Mae’n cael ei chyflwyno i Alfredo Germont, dyn ifanc o deulu parchus yn Provençal, sy’n cyfaddef ei fod eisoes mewn cariad â hi. Wrth iddi arwain eu gwesteion i ffwrdd i ddawnsio, caiff Violetta ei tharo gan bwl o besychu. Nid yw ei ffrindiau ofer yn poeni dim, ond y mae Alfredo. Mae e’n mynegi ei gariad unwaith eto ond nid yw hi’n rhoi unrhyw anogaeth iddo. Wedi ei gadael ar ei phen ei hun ar ôl i’w gwesteion adael o’r diwedd, mae Violetta, yn annisgwyl iddi hi ei hun, yn canfod ei bod wedi ei chyffwrdd gan ddatganiad angerddol y dyn ifanc. Er gwaethaf hyn mae’n ei hargyhoeddi hi ei hun mai ei hunig ddewis yw parhau i ddilyn bywyd o bleser gwyllt.
EGWYL
Mae Violetta wedi ildio i’w theimladau ac mae hi ac Alfredo bellach yn byw gyda’i gilydd yn y wlad, lle mae ei hiechyd wedi gwella. Pan mae e’n cael gwybod ar ddamwain gan ei morwyn, Annina, fod Violetta wedi bod yn gwerthu eu heiddo i dalu eu biliau, mae Alfredo’n cywilyddio ac yn gadael am Baris er mwyn codi’r arian sydd ei angen.
Caiff Violetta ymweliad annisgwyl gan Giorgio Germont, tad Alfredo. Gan ei fod wedi cymryd fod ei fab yn afradloni ei etifeddiaeth ar Violetta, mae’n synnu clywed mai hi sydd wedi bod yn talu am bopeth. Mae’n erfyn arni i dorri’r cysylltiad â’i mab gan fod eu perthynas yn bygwth disgwyliadau ei ferch o briodi i mewn i deulu parchus. Mae Germont yn perswadio Violetta fod yn rhaid iddi wneud yr aberth er mwyn diogelu hapusrwydd ei fab a’i ferch yn y dyfodol. Mae Violetta drallodus yn cytuno yn y diwedd ac yn anfon neges at y Barwn Douphol, yn rhoi gwybod ei bod yn dychwelyd i Baris. Wedi i Germont adael mae’n ysgrifennu nodyn yn ffarwelio ag Alfredo, sydd i’w roi iddo ar ôl iddi hi adael.
Pan ddarllena Alfredo y nodyn mae’n ymwrthod ag ymdrechion ei dad i’w gysuro ac yn brysio’n ôl i Baris, yn benderfynol o ddial am yr hyn sydd, yn ei dyb ef, yn frad gan Violetta.
Mae parti arall yn mynd rhagddo. Mae Alfredo’n cyrraedd ar ei ben ei hun, gan ddisgwyl gweld Violetta yn ôl gyda’i hen ffrindiau. Gwireddir ei ofnau pan ymddangosa, ar fraich y Barwn Douphol. Mae’r ddau ddyn yn chwarae cardiau ac mae Alfredo’n ennill swm mawr o arian. Yn daer am eu hatal rhag ymladd, mae Violetta’n ceisio perswadio Alfredo i adael y parti. Mae e’n gwrthod ac yn ei gorfodi hi i ddweud ei bod yn caru’r Barwn. Mewn tymer wyllt, mae Alfredo’n galw’r holl westeion i fod yn dystion iddo’n ad-dalu ei ddyledion ac yn taflu ei enillion yn wyneb Violetta. Mae hi’n syrthio mewn llewyg. Mae Germont yn dyst i ffrwydrad ei fab ac yn dannod ei ymddygiad creulon iddo.
EGWYL
Mae Violetta yn marw, heb gyfaill ac mewn tlodi, gydag Annina yn unig yn gwmni iddi. Mae’n darllen llythyr gan Germont yn dweud wrthi ei fod wedi dweud y gwir wrth Alfredo a bod y ddau ohonynt yn dod i erfyn arni am ei maddeuant.
Mae’r ddau gariad yn aduno ac ar dân yn cynllunio dyfodol hapusach, ond mae’n rhy hwyr. Mae Violetta yn marw ym mreichiau Alfredo.