

Don Pasquale Donizetti
Archived: 2018/2019Trosolwg
Dilynwch orchestion Don Pasquale yn y fersiwn newydd derfysglyd hon o opera gomedi clasurol Donizetti.
Wedi’i lleoli yn fan doner cebab Pasquale ac o’i chwmpas, mae’r cynhyrchiad cyfoes hwn yn gwneud y stori draddodiadol o rithdybiau rhamantus hen lanc a’r cariadon ifanc sy’n ei drechu yn gyfoes ar gyfer 2019.
Rydym yn cyfarfod â chast o gymeriadau hynod fywiog, gan gynnwys nai ifanc Pasquale, Ernesto sydd â’i fryd ar fod yn gerddor, a’i gariad Norina, yn ogystal â dyn lleol, Malatesta a’i fand teithiol sy’n ymgasglu y tu allan i fan cebab Pasquale ar ôl eu nosweithiau hirion o yfed.
Mae’r Cyfarwyddwr Daisy Evans a’r Arweinydd Stephen Higgins wedi cydweithio i roi gosodiad modern i’r stori draddodiadol. Yn cael ei berfformio gan 4 o gantorion ac ensemble sydd wedi’i leoli ar y llwyfan, sydd hefyd yn dod yn rhan o’r gweithredu, dyma fersiwn newydd arbennig ar opera glasurol.
#WNOpasquale
Buzz MagazineIt’s a great watch/listen for anyone new to opera as well as more familiar with the form. A real job well done, and a production which proves that Welsh National Opera really are world class
The Stage




Cefnogir gan Colwinston Charitable Trust

Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg