

Rhondda Rips It Up! Elena Langer
Archived: 2018/2019Trosolwg
Boneddigion a Boneddigesau! Mae WNO yn eich gwahodd yn gynnes i Bremière Byd eu comedi cerddorol afieithus ac anfarwol o ddigrif Rhondda Rips It Up!
Crëwyd yr adloniant tafod yn y boch hwn er eich pleser gan y disglair Ms Elena Langer (cyfansoddwr a swffragét) a’r dihafal Ms Emma Jenkins (libretydd a swffragét) ; cyfarwyddwyd gan Caroline Clegg ac arweiniwyd gan Nicola Rose.
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fynd â chi ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau arwres anhysbys mudiad y Swffragetiaid yng Nghymru, Margaret Haig Thomas, Yr Arglwyddes Rhondda.
Yn Swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur, paratôdd yr Arglwyddes Rhondda y ffordd ar gyfer hawliau cyfartal i fenywod. Yn ogystal ag ymgyrchu’n ddiflino dros hawl menywod i bleidleisio, roedd yn fwch dihangol i ymdrechion merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goroesodd drychineb suddo’r Lusitania a sefydlodd y cylchgrawn ffeministaidd radicalaidd Time and Tide. Cafodd ei hymdrechion diflino eu gwobrwyo o’r diwedd pan, yn 1918, etholfreiniwyd menywod dros 30 oed.
Mae’r daith fywiog a doniol hon drwy fyd etholfraint a chân yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y neuadd gerddoriaeth ac yn addas iawn, menywod yn unig yw aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. Tywysir y gynulleidfa drwy’r stori gan ein Emcee ni (Lesley Garrett) ac mae’n olrhain anturiaethau Lady Rhondda (Madeleine Shaw) a’r fyddin ddewr o swffragetiaid wrth iddynt ymgiprys yn eofn ag Arglwyddi, gwleidyddion a blychau post yn eu hymdrech i sicrhau hawliau i ferched.
The Times...a tremendous comic creation that deserves to be heard around the country.
The Guardian
The Stage
Theatre in Wales…Welsh National Opera has got itself a hit




Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg
Synopsis
Mae’r stori’n dechrau yn y presennol yn ystod dadorchuddio buddugoliaethus portread o’r Arglwyddes Rhondda yn Nhŷ’r Arglwyddi wrth iddi gymryd ei lle haeddiannol yno ar ôl ei marwolaeth - wedi i’r hawl hwnnw gael ei wrthod iddi ystod ei bywyd ar sail ei rhyw.
Yna, rydym yn teithio’n ôl mewn amser, dan arweiniad medrus Emcee (Lesley Garrett), i 1908 ac i Neuadd Ddirwest Casnewydd...
Dychwela Margaret yn orfoleddus yn dilyn rali enwog y swffragetiaid yn Hyde Park ac mae’n gorchymyn menywod Casnewydd i sefydlu eu cangen eu hunain o’r WSPU. Wedi ei hysbrydoli gan waith y Pankhursts, mae’n dechrau ei hymgyrch ei hun gan drefnu ralïau, ymosod ar wleidyddion a hyd yn oed rhoi blwch post yng Nghasnewydd ar dân.
Arweinia’r olaf o’r pethau hynny at ei chludo i’r carchar er iddi, mewn modd nodweddiadol o aristocrataidd, gael ei gyrru yno mewn limwsîn!
Mae ei chyfnod yn y carchar yn cryfhau ei phenderfyniad a phan gaiff ei rhyddhau mae’n dwysáu ei hymdrechion. Mae’n cwrdd â’r newyddiadurwraig Helen Archdale ac yn syrthio mewn cariad â hi. Daw Helen yn bartner iddi ac yn ysbrydoliaeth i’w brwydr dros etholfraint menywod. Pan ddechreua’r rhyfel mae’n bachu ar y cyfle i ysgogi menywod ac yn troi’n fersiwn benywaidd o Field Marshall Haig; yn recriwtio aelodau i’r WAAC a threfnu i fenywod wasanaethu eu gwlad ym mhob ffordd bosib.
Yn wyrthiol, mae’n goroesi trasiedi suddo’r Lusitania wrth ddychwelyd o daith fusnes i America. Pan ddaw’r Rhyfel i ben, mae hi unwaith eto’n canolbwyntio ei holl egni ar y brif nod o etholfreinio menywod.
Nid yw’n rhoi’r gorau i’w hymdrech nes i hynny gael ei gyflawni yn 1918 pan dderbyniodd hi, a phob menyw arall dros 30 oed, yr hawl o’r diwedd i roi croes ar y papur pleidleisio a phleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.
Cefnogir Rhondda Rips It Up! a'r gweithgareddau o amgylch gan:
The Nicholas John Trust, er cof am Joan Moody






Noddwr balch o berffomriad bremier byd Rhondda Rips It Up!
Gwendoline and Margaret Davies Charity
The Leche Trust
The Joan Coates Charitable Trust
Mae perfformiadau WNO yn yr Hackney Empire, Llundain wedi eu cefnogi gan The John S Cohen Foundation
Mae perfformiad WNO yn yr Oxford Playhouse wedi ei gefnogi gan Sian Thomas Marshall
WNO Rhondda Union