

Roberto Devereux Donizetti
Archived: 2018/2019Trosolwg
Yn cynnwys rhai o felodïau mwyaf gwefreiddiol Donizetti mae dwyster dramatig a chynllun trawiadol y cynhyrchiad yn sicr o wneud i’ch calon guro’n gyflym.
Mae Roberto Devereux wedi ei gyhuddo o frad. I gadw ei ryddid y cyfan y mae’n rhaid iddo’i wneud yw cyflwyno’r fodrwy y mae ei gariad, y Frenhines Elizabeth I, wedi ei rhoi iddo. Ond mae Devereux, yn gyfrinachol, mewn cariad gyda Sara ac mae’n gwrthod troi ei gefn arni. Mae Elizabeth yn torri ei chalon oherwydd hyn ac yn teimlo bod yn rhaid iddi lofnodi gwarant i’w ddienyddio.
Mae Roberto Devereux yn cynnwys rhai o felodïau mwyaf gwefreiddiol Donizetti, gan gynnwys Vivi, in grato, a lei accanto wedi’u perfformio gan Elizabeth I wrth i’w byd chwalu’n deilchion mewn finale torcalonnus. Mae dwyster dramatig a chynllun trawiadol y cynhyrchiad mawr ei glod hwn gan WNO, yn sicr o wneud i’ch calon guro’n gyflym.
Bachtrack
The Stage




Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Caiff cariad y Frenhines Elizabeth I, Roberto Devereux, ei gyhuddo o frad. Mae ei hymgais i’w achub yn cael eu hatal pan mae’n darganfod ei fod mewn cariad â menywarall. Rhaid i Devereux wynebu ei ddiwedd anochel a rhaid i’r Frenhines wynebu henaint a marwolaeth ar ei phen ei hun.