Terminal 3
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae'r prosiect realiti estynedig Terminal 3 yn ymchwilio i hunaniaeth gyfoes Mwslimiaid yn yr Unol Daleithiau drwy lens cyfweliad holi mewn maes awyr.
Mae'r prosiect realiti estynedig Terminal 3 yn ymchwilio i hunaniaeth gyfoes Mwslimiaid yn yr Unol Daleithiau drwy lens cyfweliad holi mewn maes awyr. Wedi'i ysbrydoli gan brofiadau personol y crewr Asad J Malik, bydd eich cyfweliad uniongyrchol eich hun gyda theithiwr ar ffurf hologram yn dod i ben pan fyddwch yn penderfynu a ddylid caniatau iddynt ddod i mewn i'r wlad - neu beidio.
Beth yw Arddangosfa Trochol Rhyddid?
Mae'r arddangosfa hon, sydd wedi'i churadu'n arbennig, yn cynnwys casgliad o rith-wirionedd (VR) a gwaith realiti estynedig (AR) sy'n edrych ar rai o'r themâu gwleidyddol a archwiliwyd o fewn ein tymor opera Rhyddid.
Ydy’r profiad yn addas i blant? Mae gwneuthurwyr VR ac AR wedi gosod cyfyngiad oedran o 13 ac uwch. Felly yn anffodus ni fydd plant o dan 13 oed yn gallu cymryd rhan yn elfen VR/AR yr arddangosfa. Mae angen goruchwyliaeth oedolyn ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed bob amser.
Mae gen i gwestiynau am hygyrchedd Mae'r lleoliad a'r gosodiadau yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cofiwch gynnwys unrhyw ofynion penodol fel rhan o'ch archeb ar-lein.
Dwi'n dioddef o salwch teithio alla i gymryd rhan? Os ydych yn dioddef o salwch teithio nid ydym yn argymell eich bod yn cymryd rhan. Fodd bynnag, gallwch stopio’r profiad ar unrhyw adeg os ydych yn teimlo'n sâl neu'n bendro.
Alla i gymryd rhan os ydw i’n feichiog? Gan fod y profiad hwn yn cynnwys elfennau o symud a mudiant, mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at gyfnodau penysgafn, ac felly ni argymhellir cymryd rhan.
Mae gen i reolydd calon, ydy hi’n ddiogel i mi gymryd rhan? Nid ydym yn argymell cymryd rhan oherwydd gall elfennau o dechnoleg VR ymyrryd â rheolyddion y galon.
Ydw i’n gallu defnyddio’r offer pen os oes gen i gyflwr croen? Yn anffodus ni allwch ddefnyddio'r offer pen os oes gennych gyflwr croen heintus. Mae rhai o’r offer pen yn cynnwys latecs rwber naturiol a all achosi adweithiau alergaidd i bobl sy'n sensitif i latecs.
Ydw i’n gallu cymryd lluniau? Ydych, croeso i chi gymryd lluniau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WNOFreedom
Ydw i’n gallu gwisgo sbectol yn ystod y profiad? Ydych, mae’r offer pen i gyd yn addasadwy ac wedi'u hadeiladu gyda digon o le rhwng y lensys a'r wyneb i chi gael profiad o'r cynnwys heb anghysur.
Ydw i’n gallu cael tocyn ar y diwrnod? Rydym yn argymell bwcio tocyn am ddim ar-lein i osgoi siom. Fodd bynnag, bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod yn amodol ar argaeledd.
Pryd ddylwn i gyrraedd?
Ceisiwch gyrraedd 5 munud cyn eich sesiwn. Yn anffodus, nid ydym yn medru sicrhau mynediad os ydych yn cyrraedd yn hwyr am eich sesiwn.
Defnyddiol i wybod
13+ cyfyngiad oedran
Crewr y Prosiect: Asad J Malik
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.