The Consul Menotti
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae ymbil taer Menotti am fwy o dosturi a dyngarwch yn berthnasol hyd heddiw
Ni allai gwaith 1950 Gian Carlo Menotti, sef The Consul - sy’n sôn am ddisgwyl yn llawn gofid am fisa – fod yn fwy amserol. Mae ymbil taer Menotti am fwy o dosturi a dyngarwch yn berthnasol hyd heddiw.
Pan roddir diogelwch y teulu mewn perygl, y mae rhaid i Magda Sorel gael fisas iddynt adael y wlad. Mae Magda yn brwydro yn erbyn biwrocratiaeth sy’n ddidostur ac sy’n meddu ar heddlu cudd llygredig a dylanwadol.
Mae’r opera ingol hon wedi ei lleoli mewn gwladwriaeth dotalitaraidd Ewropeaidd anhysbys ac mae’n llawn emosiwn a digwyddiadau annisgwyl. Mae ei diweddglo gafaelgar a chyffelybiaethau anhygoel i ddigwyddiadau heddiw wedi ei gwneud yn ffefryn ymhlith selogion opera gyfoes, gan fwynhau rhediad o wyth mis ar Broadway.
Rydym yn ddiolchgar i The Wiener Library am roi delweddau gwreiddiol o'u casgliad i ni eu defnyddio yn y cynhyrchiad hwn.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Synopsis
Act I
Mewn gwlad anhysbys o dan gyfundrefn totalitariaeth, mae’r anghydffurfiwr gwleidyddol John Sorel ar ffo. Mae ei wraig Magda a’i fam yn ei guddio, ond yn sydyn mae cyrch ar eu cartref gan yr heddlu cudd. Maent yn bygwth Magda, ond yn gadael cyn i John esbonio ei gynlluniau i’w cadw’n ddiogel, sef i Magda wneud cais am fisa er mwyn gadael y wlad. Yn y cyfamser, bydd John yn dianc i ffin y wlad, lle bydd yn cuddio ac yn aros am ei deulu. Mae Ysgrifenyddes sarrug a phentwr o waith papur yn achosi oedi rhwystredig yn swyddfa’r Conswl, lle nad oes unrhyw olwg o Gonswl.
Act II
Yn y fflat, mae mam John wrthi’n canu hwiangerdd i gysuro mab John a Magda sy’n wael iawn ei iechyd. Ceisia’r heddlu cudd gael gwybodaeth gan Magda ynghylch cydwladwyr ei gwˆr, ond mae’n gwrthod dweud dim. Yn y cyfamser, mae John yn anfon llythyr at Magda yn crefu arni i frysio â’i fisa. Mae Magda’n dychwelyd i swyddfa’r Conswl. Ar ôl cael ei gwrthod gan yr Ysgrifenyddes, mae’n gofyn iddo a oes Conswl i’w gael mewn gwirionedd, a dywedir wrthi y caiff ei weld ar ôl iddo orffen gyda’i ymwelydd presennol. Daw rhywun allan o swyddfa’r Conswl; swyddog yr heddlu cudd.
Act III
Sawl mis yn ddiweddarach, mae mab Magda a’i mam yng nghyfraith wedi marw. Wrth ymweld â swyddfa’r Conswl, daw i wybod bod John yn bwriadu rhoi ei fywyd yn y fantol mwyn dychwelyd ati. Gan wybod yn iawn y caiff ei gwˆr ei ddal os bydd yn dychwelyd, mae’n ysgrifennu nodyn ato yn dweud ei bod am ladd ei hun. Eiliadau cyn i swyddfa’r Conswl gael ei chloi am y noson, brysia John drwy’r drysau â’r heddlu ar ei gynffon. Gwna’r Ysgrifenyddes bob ymdrech i gysylltu â Magda ar y ffôn, ond mae hi eisoes wedi marw.
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.