The Magic Flute Mozart
Archived: 2018/2019Trosolwg
Bydd ein cynhyrchiad hudolus yn mynd a chi i fyd o freuddwydion ble byddwch yn cwrdd â chymeriadau lliwgar wedi’i chyfuno â stori ffraeth a cherddoriaeth ogoneddus Mozart.
Mae Brenhines y Nos yn perswadio Tamino i achub ei merch brydferth Pamina o grafangau’r swynwr drygionus Sarastro. Gyda ffliwt hud a set o glychau hud i’w amddiffyn, mae’n cychwyn ar ei daith gyda help Papageno, yr heliwr adar. Ond wrth iddynt oresgyn cyfres o heriau, daw’n amlwg nad yw pethau fel yr oeddent yn ymddangos – a fydden nhw yn llwyddiannus ac yn dod o hyd i wir gariad?
Mae cynhyrchiad hudolus Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd a chi i fyd o freuddwydion ble byddwch yn cwrdd â chymeriadau lliwgar, gan gynnwys llew sy’n darllen papur newydd, a physgodyn sydd hefyd yn feic. At hyn oll, ychwanegwch stori ffraeth, ychydig o swyn a cherddoriaeth ogoneddus Mozart, gan gynnwys aria ysblennydd Brenhines y Nos, ac fe gewch gyfuniad perffaith fydd yn rhoi profiad opera bythgofiadwy i bawb, o bob oed.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Synopsis
Caiff Tamino ei achub rhag anghenfil gan dair Boneddiges. Mae’n cwrdd â Papageno, daliwr adar, ac anfonir y ddau i chwilio am Pamina, merch Brenhines y Nos, sydd wedi cael ei chipio a’i charcharu gan Sarastro. Bydd ffliwt hud a chyfres o glychau hud yn eu hamddiffyn. O dan arweiniad tri Bachgen, maent
yn cyrraedd teyrnas Sarastro. Caiff Tamino wybod nad drwgweithredwr, fel y tybiodd, yw Sarastro. Caiff ei wahodd i gael ei dderbyn i frawdoliaeth Sarastro. Ar ôl cyfres o dreialon, daw Tamino a Pamina at ei gilydd. Maent yn gorchfygu tân a dwˆr, a grymoedd y goleuni sy’n cario’r dydd.