Les vêpres siciliennes Verdi
Archived: 2019/2020Trosolwg
Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn Sisili yn 1282, mae opera fawreddog Verdi yn cynnwys cytganau hyfryd ac ariâu gwefreiddiol, gan gynnwys y Bolero.
Mae Hélène yn ceisio cyfiawnder i'w brawd a lofruddiwyd, gyda dialedd a chwyldro yn gefnlen i Les vêpres siciliennes. Wrth i Henri, cariad Hélène, ar y cyd â'r gwrthryfelwr Procida, baratoi i ddinistrio ei lofruddiwr Montfort, datgelir cyfrinach dywyll. Yng nghanol y dryswch a'r brad, mae sŵn clychau priodas yn atseinio, sy'n arwydd o'r gyflafan a fydd yn dinistrio pob un ohonynt.
Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn Sisili yn 1282, mae opera fawreddog Verdi yn cynnwys cytganau hyfryd ac ariâu gwefreiddiol, gan gynnwys y Bolero. Yn y cynhyrchiad newydd trawiadol hwn, mae'r Cyfarwyddwr David Pountney a'r tîm creadigol y tu ôl i La forza del destino ac Un ballo in maschera yn ailuno i orffen Trioleg Verdi WNO.
#WNOvepres
The GuardianIt is thanks to Rizzi in the pit that Verdi’s combination of power and finesse gives the ear much to savour, and there is theatricality and spectacle aplenty
Cefnogir gan
Syndicet Verdi WNO
The Kobler Trust
Noddwr Trioleg Verdi: Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Ffrangeg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf
Ffeithiau
Dawnsiwyd gan Gwmni Dawns Genedlaethol Cymru
Rhan olaf ein Trioleg Verdi
Cyd-gynhyrchiad â Theater Bonn
Synopsis
Mae'r Gosberau Sisilaidd (Sicilian Vespers) yn cyfeirio at y gyflafan
a ddigwyddodd yn Palermo, 1282.
Mae Sisili dan feddianiad milwrol y Ffrancwyr. Mae'r
gwrthsafwr, Henri, mewn cariad â'r Dduges Hélène, chwaer un o’r dynion a laddwyd
gan y Llywodraethwr Ffrengig, Guy de Montfort. Wedi iddo ddial am
farwolaeth ei brawd, mae Hélène yn dychwelyd cariad Henri. Ar ôl gwrthod
gwahoddiad de Montford i ymuno â’r gwasanaeth, caiff Henri ei rybuddio i gadw
draw o Hélène.
Dymuniad Henri a Hélène â Jean de Procida yw dymchwel y Ffrancwyr
yn Sisili. Mae Henri’n cael ei arestio am wrthod gwahoddiad i ddawns a gynhelir
gan de Montfort ac mae Procida yn gwthio’r ysbryd gwrth-Ffrengig yn fwriadol
drwy annog milwyr Ffrainc i herwgipio merched gwerinol.
Ar ôl dysgu mai de Montfort yw ei dad, mae Henri’n rhwystro ei lofruddiad a
gynllwyniwyd gan Procida a Hélène. Cânt eu llusgo i'r carchar a chyhuddir Henri
o fod yn fradwr i'r gwrthsafiad.
Mae Hélène yn maddau i Henri ar ôl canfod pam wnaeth arbed fywyd
de Montfort. Ar yr amod bod Henri yn ei gydnabod yn dad iddo, mae de
Montfort yn cytuno i faddau i'r cynllwynwyr. I atal mwy o dywallt gwaed ac
fel arwydd o gymodi, mae de Montfort yn trefnu'r briodas rhwng ei fab, Henri, a
Hélène.
Ar ôl darganfod y bydd sain ei chlychau priodas yn arwydd o
gyflafan y Ffrancwyr, mae Hélène yn mynd ati'n daer i geisio rhwystro’s briodas
ond mae'r clychau’n canu ac mae'r gwrthsafwyr Sisilaidd yn ymosod ar y
Ffrancwyr diamheus.