Rigoletto Verdi
Archived: 2019/2020Trosolwg
Ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau, a gyda'i stori a sgôr dramatig, mae'n hawdd gweld pam ei bod yn parhau i fod yn ffefryn bythol.
Gall y Dug gael unrhyw fenyw a ddymuna, ac mae'n byw bywyd o wamalrwydd a llygredigaeth. Mae Rigoletto, digrifwas y Dug, yn gwneud hwyl am ben tadau a gwŷr y menywod mae'r Dug yn ceisio eu hudo, sydd yna'n mynd ati i geisio dial arno. Ond mae gan Rigoletto anrhydedd ei ferch ei hun i'w warchod, ac mae digwyddiadau yn datblygu gyda goblygiadau anfwriadol.
Ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau, a gyda'i stori a sgôr dramatig – sy'n cynnwys yr adnabyddus La donna è mobile – mae'n hawdd gweld pam ei bod yn parhau i fod yn ffefryn bythol. Mae'r adfywiad amserol hwn o gynhyrchiad poblogaidd WNO wedi ei osod yn y Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaeth Kennedy, ac mae'n gweld Mark S Doss (Tosca, Gwanwyn 2018) yn dychwelyd i'r Cwmni yn y brif ran.
#WNOrigoletto
The Sunday Timesworld-class performances from chorus and orchestra
Get The ChanceWelsh National Opera's Rigoletto is gripping, moving, and topical.
Er cof am David a Mary Mills fel gwerthfawrogiad o’u rhodd hael.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf
Synopsis
Act un
Mewn parti, mae’r Dug yn chwantu merch ifanc ddirgel y mae wedi’i gweld yn yr eglwys. Daw’r Iarll Monterone i dorri ar draws y dathliadau, gan fynnu bod ei ferch ef – a ddenwyd gan y Dug – yn cael ei dychwelyd. Mae Rigoletto, llaw dde’r Dug, yn ei wawdio, felly mae Monterone yn ei felltithio. Mae asasin o’r enw Sparafucile yn cynnig ei wasanaethau i Rigoletto.
Mae Rigoletto yn dychwelyd adref at ei ferch, Gilda, gan ddweud wrth ei gofalwraig, Giovanna, am ofalu amdani. Ar ôl clywed swˆn y tu allan, mae’n gadael, a daw’r Dug i mewn wedi’i wisgo fel myfyriwr tlawd. Sylweddola Gilda mai’r dyn a welodd yn yr eglwys ydyw, a chaiff ei thwyllo gan ei ystryw. Mae gwˆyr y llys yn paratoi i gipio Gilda gan eu bod yn credu mai gordderch Rigoletto yw hi, a chaiff Rigoletto ei dwyllo i’w helpu.
EGWYL
Act dau
Mae’r Dug wrth ei fodd pan wêl Gilda yn aros amdano yn ei ystafell wely wedi cael ei herwgipio. Mae Rigoletto yn chwilio’n daer amdani, a datgelir mai Gilda yw ei ferch. Ar ôl iddi gael ei rhyddhau, dywed Gilda wrtho beth sydd wedi digwydd ac mae Rigoletto yn benderfynol o ddial.
Act tri
Mae Rigoletto yn mynd â Gilda i gwt Sparafucile i ddangos iddi beth yw gwir natur y Dug. Yma, gwêl y Dug yn cyboli â Maddalena, ac mae’n torri ei chalon. Cytuna Sparafucile a Rigoletto ar bris i lofruddio’r Dug, gyda Rigoletto yn addo dychwelyd am hanner nos i daflu’r corff i’r afon. Fodd bynnag, mae Maddalena yn perswadio Sparafucile i arbed y Dug; a phe bai rhywun arall yn ymddangos, mae’n cytuno i ladd hwnnw neu honno yn ei le. Mae Gilda yn digwydd clywed y sgwrs hon, ar ôl anufuddhau i orchymyn ei thad i adael, ac mae’n penderfynu ei haberthu ei hun ar ran y Dug gan ei bod yn dal i’w garu. Mae Rigoletto yn casglu’r sach sy’n cynnwys y corff, gan ddarganfod – yn rhy hwyr – mai ei ferch ef ei hun yw’r corff sydd ar drengi.