The Marriage of Figaro Mozart
Archived: 2019/2020Trosolwg
Drwy gyfres o droeon annisgwyl, bydd The Marriage of Figaro yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd nes yr olygfa olaf, gyda sgôr ragorol Mozart yn dod â'r cyfan yn fyw.
Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna, ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna, ond a fydd ei wraig yn darganfod y gwir? A fydd Figaro yn gallu trechu ei feistr, er anrhydedd ei ddarpar wraig? Neu a fydd y Cherubino ifanc yn drysu pethau fwy byth?
Drwy gyfres o droeon annisgwyl, bydd The Marriage of Figaro yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd nes yr olygfa olaf, gyda sgôr ragorol Mozart yn dod â'r cyfan yn fyw.
Mae gan gynhyrchiad WNO sydd wedi ei osod yn yr oes o'r blaen holl nodweddion opera glasurol. Mae setiau cain, gwisgoedd cyfoethog a chast ensemble eithriadol yn cyfuno i dalu teyrnged i un o operâu comig mwyaf ei chyfnod.
Er cof am Marie-Luise Waldeck, a oedd wrth ei bodd ag WNO ac a adawodd rodd yn ei hewyllys i sicrhau bod ei hangerdd yn byw ymlaen.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae WNO yn darparu disgrifiad sain a theithiau cyffwrdd ar gyfer rhai perfformiadau. Gweler y tab lleoliadau a thocynnau am ragor o wybodaeth.
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf
Ffeithiau
Cynhyrchiad ar y cyd â Grand Théâtre de Genève
Synopsis
Mae Figaro a Susanna, cwpwl dyweddïedig sy'n weision i’r Iarll ac Iarlles Almaviva, yn poeni y bydd yr Iarll yn ceisio hudo Susanna ar ei noson briodas, sydd ar y gweill.
Fel rhan o gynllun i atal hyn rhag digwydd, mae Susanna, yr Iarlles, a Figaro yn gwisgo’r gwas ifanc, Cherubino, fel merch a fydd yn esgus bod yn Susanna er mwyn helpu’r Iarlles ddal ei gŵr anffyddlon.
Pan mae’r Iarll yn tarfu arnynt ac yn gorchymyn Cherubino i ymuno â’r fyddin, maen nhw’n newid tactegau. Mae Susanna a’r Iarlles yn penderfynu datgelu anffyddlondeb yr Iarll drwy gyfnewid dillad â’i gilydd a threfnu cyfarfod cyfrinachol ag ef. Mae Figaro wedi’i frawychu o beth sy’n ymddangos fel Susanna ym mreichiau’r Iarll ond mae wedi’i dwyllo dros dro. Pan ddatgelir gwir hunaniaeth y merched, mae’r Iarll yn erfyn am faddeuant yr Iarlles. Mae Susanna a Figaro yn dathlu eu priodas hir-ddisgwyliedig.