Alice’s Adventures in Wonderland Will Todd
Archived: 2020/2021Trosolwg
Daw stori glasurol Lewis Carroll yn fyw yn yr opera hyfryd hon i'r teulu
Daw stori glasurol Alice’s Adventures in Wonderland yn fyw yn yr opera hynod a hyfryd hon i'r teulu. Dilynwch Alys i lawr y twll cwningen ar ei hanturiaethau lle mae'n dod ar draws llu o gymeriadau rhyfedd gan gynnwys lindysyn didaro, cath hapus, ysgyfarnog sarrug, hetiwr hurt a phathew cysglyd. Darganfyddwch pam nad yw popeth fel y dylai fod yng Ngwlad Hud a pham mae Brenhines y Calonnau mor flin.
Mae sgôr Will Todd, a berfformir gan gerddorfa fach, yn gymysgedd eclectig o gerddoriaeth jas, sioe gerdd ac opera ac yn ategu'r libreto ffraeth yn berffaith i greu stori hwyliog a difyr sy'n aros yn driw i'r llyfr gwreiddiol.
#WNOalice
Comisiynwyd a chynhyrchwyd yn wreiddiol gan Opera Holland Park
Cefnogir dychweliad WNO i’r llwyfan gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Saesneg
Perfformiad promenâd yw hwn, sy’n golygu cerdded rhwng dwy ardal berfformio.
Oherwydd natur y perfformiad, bydd angen eistedd ar y llawr, er mwyn i bawb fedru gweld y cyfan. Argymhellwn i chi ddod â clustogau.
Uchafswm o 6 tocyn yr archeb
Ni chaniateir plant o dan 2 mlwydd oed
Archebion Mynediad
Yn unol â rhwydwaith Hynt rydym yn cynnig tocyn am ddim i gymar, gofalwr neu gynorthwyydd personol defnyddiwr cadair olwyn
Synopsis
Mae Alice yn 11 oed ac yn byw mewn tref heb lawer o gyffro ynddi. Ar ddydd Mercher diflas yn ystod gwyliau'r haf mae Alice a'i theulu yn cael eu dal mewn cawod drom o law wrth grwydro'r dref. Maent yn rhuthro i'r lloches agosaf, sydd, er mawr lawenydd i rieni Alice, yn siop anifeiliaid anwes. Mae Alice wedi ymgolli mewn myfyrdod... Yn sydyn caiff ei hysgwyd o'i myfyrdod gan un o'r anifeiliaid - cwningen wen - sy'n dechrau siarad â hi...
Cyn i Alice wybod, caiff ei thywys i lawr y twll cwningen lle mae'n cwrdd â llu o gymeriadau rhyfeddol yn cynnwys lindysyn didaro, cath hapus, ysgyfarnog sarrug, hetiwr hurt a phathew cysglyd.
Mae Brenhines y Calonnau yn flin iawn ac ar ôl te penblwydd yr Hetiwr Hurt, gorfodir yr holl breswylwyr i weithio yn ei ffatri tartenni jam, dan lygaid barcud, Tweedledum a Tweedledee.
Gorchwyl Alice yw achub Gwlad Hud.