The Barber of Seville Rossini
Archived: 2021/2022Trosolwg
Drygioni a hwyl diri
Mae Iarll Almaviva wedi syrthio mewn cariad â Rosina, ond mae gan ei gwarchodwr Doctor Bartolo gynlluniau eraill ac mae eisiau ei chadw i'w hun. Mae Almaviva, gyda chymorth y barbwr lleol, Figaro, yn llwyddo i drechu Bartolo, a thrwy gyfres o ddigwyddiadau digrif a thwyll, mae Figaro yn chwarae Ciwpid. A fydd Figaro yn achub y dydd ac a fydd gwir gariad yn trechu popeth?
Mae cynhyrchiad poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru o The Barber of Seville - wedi'i osod mewn piazza Sbaenaidd traddodiadol - yn cyd-fynd yn berffaith gydag alawon ffraeth a mynegiannol Rossini. Gyda sgôr cofiadwy sy'n cynnwys Aria Figaro, dyma'r opera berffaith i godi calon.
#WNObarber
Bachtrack
Cyfieithiad o’r libreto © Ystâd Robert David Macdonald 1986. Asiant hawlfraint: Alan Brodie Representation Ltd alan.brodie.com
Cynhelir perfformiadau Tymor yr Hydref 2021 WNO o The Barber of Seville er cof am Clive Richards ac i ddiolch iddo.
Cefnogir dathliadau 75 mlynedd WNO gan Colwinston Charitable Trust
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ganllawiau diogelwch yn ein lleoliadau, cliciwch yma
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma
Synopsis
Y tu allan i dŷ Dr Bartolo, mae Iarll Almaviva (wedi gwisgo fel Lindoro, myfyriwr) yn canu i Rosina. Cyrhaedda'r barbwr lleol Figaro a dywed wrth Almaviva fod Rosina yn cael ei chadw oddi wrth bawb gan fod Bartolo yn gobeithio ei phriodi ei hun i gael ei harian. Mae'r Iarll a Figaro yn gwneud cynlluniau i fynd i mewn i'r tŷ.
Mae llais Lindoro wedi swyno Rosina. Mae Figaro yn annog Rosina i ysgrifennu llythyr at 'Lindoro', ac yn addo ei anfon.
Mae Almaviva yn cyrraedd wedi gwisgo fel milwr. Mae'n sleifio llythyr i Rosina ond mae pethau'n poethi, sy'n arwain at ymweliad gan yr heddlu. Ni chaiff ei arestio pan ddangosa ei reng yn llechwraidd.
Mae Almaviva yn mynd i mewn i'r tŷ am yr eildro wedi gwisgo fel 'Don Alonso' prentis i Don Basilio, y mae'n honni ei fod wedi'i daro'n wael. I ennill ymddiriedaeth Bartolo, dangosa Don Alonso lythyr Rosina at Almaviva iddo. Mae Figaro'n cyrraedd i eillio Bartolo. Ymddangosa Don Basilio, ond caiff ei ddarbwyllo ei fod yn sâl a bod rhaid iddo adael. Mae Rosina a 'Lindoro' yn cynllwynio i redeg i ffwrdd. Mae Bartolo yn clywed drwy ddamwain ac mae'n gwylltio.
Mae Bartolo yn dweud wrth Rosina mai asiant i Almaviva yw 'Lindoro', sydd eisiau ei phriodi am ei harian. Wedi'i llethu, mae'n cytuno i briodi Bartolo. Mae Figaro ac Almaviva yn sleifio i mewn ac mae Almaviva yn datgelu ei hunaniaeth. Mae Basilio yn cyrraedd gyda'r notari, ond mae'n cael ei lwgrwobrwyo i wylio Almaviva yn priodi Rosina yn lle, gan adael Bartolo heb ddim dewis ond cyfaddef ei fod wedi cael ei drechu ac ymuno â'r dathliadau.