La bohème Puccini
Archived: 2022/2023Trosolwg
Gwell bod wedi caru a cholli nag erioed wedi caru o gwbl
Un noswyl Nadolig oer, mae bywyd pedwar artist heb ddimai goch - paentiwr, cerddor, bardd ac athronydd - yn cael eu newid am byth pan gânt ymweliad gan eu cymydog Mimi, sy’n chwilio am oleuni cannwyll. Mae Rodolfo yn agor y drws i gael ei daro gan gariad ar yr olwg gyntaf sy’n llosgi’n fwy llachar na fflam.
Fisoedd yn ddiweddarach, caiff eu hangerdd ieuenctid ei herio gan wirioneddau caledion bywyd pan ddaw Mimi yn ddifrifol wael. Mae Rodolfo a’i ffrindiau yn gwneud eu gorau i ofalu amdani ond a all ei gariad atal trasiedi?
Mae La bohème yn stori o gariad, colled, gwrthryfel a rhyddid ac yn un o hoff storiâu opera. Mae cynhyrchiad bythol WNO yn tynnu llun byw o fywyd Bohemaidd ym Mharis ar droad y 19eg ganrif, wedi’i gyfoethogi gan dafliadau atmosfferig a cherddoriaeth fendigedig o ramantaidd Puccini. Mae’n sicr o gyffwrdd eich calon a gwneud i chi syrthio mewn cariad â Rodolfo, Mimi a’u ffrindiau dro ar ôl tro.
#WNOboheme
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Archebu rhaglen
Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation a Phrif Gefnogir WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mwlydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma
Synopsis
Act Un
Croglofft ym Mharis, Noswyl Nadolig
Mae Rodolfo a Marcello yn rhewi’n oer ac felly’n llosgi llawysgrif Rodolfo. Mae Colline, eu ffrind, wedi methu â gwystlo ychydig o lyfrau, ond mae Schaunard yn cyrraedd gyda darpariaethau - felly mae’r Nadolig ychydig yn llai llwm.
Mae eu landlord, Benoit, yn cyrraedd ac yn mynnu ei fod yn cael y rhent sy’n ddyledus. Maen nhw’n ei dwyllo, ac yn ei hel oddi yno heb dalu. Mae Rodolfo yn aros yno tra bod y gweddill yn mynd i Café Momus.
Mae Mimì, cymydog, yn cnocio’r drws i ofyn am olau cyn llewygu a cholli ei hallwedd. Mae Rodolfo yn cymryd arno nad yw wedi dod o hyd i'r allwedd, er mwyn i’r ddau gael mwy o amser i siarad - maen nhw’n cwympo mewn cariad. Maent yn mynd i gwrdd â’r lleill.
Act Dau
Café Momus, yn hwyrach y noson honno
Ar ôl prynu het i Mimì, mae Rodolfo yn ei chyflwyno i’w ffrindiau. Wrth fwyta, mae Musetta yn flin gyda Marcello. Mae hi’n rhoi sylw i’w hedmygwr hŷn, Alcindo, felly mae Marcello yn parhau i’w hanwybyddu. Yn hwyrach ymlaen mae’n ildio, ac mae hi’n dweud wrth y gweinydd y bydd Alcindo yn talu eu bil. Maen nhw’n diflannu i fwrlwm y torfeydd Nadolig.
Act Tri
The Barrière d’Enfer, mis Chwefror
Wrth i’r wawr dorri, mae’r swyddogion tollau yn pendwmpian ger y tollborth i Baris. Mae Musetta yn arwain dathlwyr sydd wedi bod ar eu traed drwy’r nos mewn caffi cyfagos ac mae gweithwyr yn gwneud eu ffordd i’w gwaith cynnar.
Mae Mimì yn dweud wrth Marcello na all oddef cenfigen Rodolfo. Mae’n ei chynghori nhw i wahanu. Mae Rodolfo yn grwgnach fod Mimì yn fflyrt cyn cyfaddef ei fod yn ofni y bydd hi’n marw’n fuan. Mae Mimì yn clustfeinio. Mae hi’n ceisio gwahanu â Rodolfo, ond mae’r ddau yn cytuno i aros tan y gwanwyn.
Act Pedwar
Rhai misoedd yn ddiweddarach
Mae Mimì a Musetta wedi gadael Rodolfo a Marcello i fod yn gariadon i ddynion eraill, ond maen nhw’n dal i dynnu sylw’r artistiaid. Mae Schaunard a Colline yn cyrraedd y groglofft gyda bwyd, ac mae’r pedwar ffrind yn cael gloddest ffug. Mae Musetta yn torri ar eu traws am ei bod wedi dod o hyd i Mimì ar y stryd yn marw.
Mae Musetta yn rhoi ei chlustdlysau i Marcello eu gwystlo er mwyn cael meddyginiaeth a meddyg; mae’n prynu mwff i gynhesu dwylo Mimì. Mae Colline yn penderfynu gwystlo ei gôt fawr werthfawr ac yn gadael gyda Schaunard.
Mae Mimì a Rodolfo yn myfyrio ar yr adeg y gwnaethant gwrdd am y tro cyntaf a cwympo mewn cariad. Mae’r gweddill yn dychwelyd, ond mae’n rhy hwyr - mae amser wedi mynd yn drech arnynt.