The Makropulos Affair Janáček
Archived: 2022/2023Trosolwg
Beth pe baech yn gallu byw am byth?
Mae'r difa enigmatig Emilia Marty yn edrych yn dda o ystyried ei hoedran. A chyfrinach ei hieuenctid yw elicsir hudolus o fywyd a gymerodd ganrifoedd yn ôl. Ers dros 300 o flynyddoedd, mae wedi byw sawl bywyd - gan symud ar draws Ewrop, newid ei henw a thorri calonnau ar hyd y daith - wrth iddi ddilyn awydd i fod y gantores orau erioed. Ond wrth i'r elicsir ddechrau pylu, a fydd hi ar dân i ddod o hyd i’r ateb am ieuenctid di-ben-draw?
Byddwch yn barod i gael eich meddiannu gan un o storiâu dirgelwch mwyaf cyffrous opera, The Makropulos Affair, sy'n ein harwain ar daith i ddatgelu hunaniaeth go iawn y ferch gyfareddol hon. Dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, mae sgôr hynod ddramatig Janáček yn ychwanegu at y dirgelwch, gan eich gadael i bendroni, tybed a all anfarwoldeb ddod â hapusrwydd go iawn, neu ai melltith ydyw?
#WNOmakropulos
The Daily Telegraphan unmissable triumph for Welsh National Opera
The TimesTomáš Hanus clearly has this music in his soul, and he inspired orchestral playing with a sharp tang, ferocious urgency and luminous tenderness
The Guardian
Bachtrack
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Archebu rhaglen
Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation a Phrif Gefnogir WNO, ABP. Cefnogir gan Harry Hyman a Melanie Meads. Cefnogir swydd y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus gan Marian a Gordon Pell. Cefnogir rôl Kristina gan Colin a Sylvia Fletcher. Cefnogir gan Gylch Janáček WNO a Phartneriaid WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Tsieceg, gydag uwchdeitlau yn Gymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Ffeithiau
Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera
Synopsis
ACT I
Yn swyddfeydd y cyfreithiwr Dr Kolenaty, mae ei glerc Vitek yn ystyried achos etifeddiaeth Gregor vs Prus sy’n ganrif oed. Mae Albert Gregor yn cyrraedd, ar bigau’r drain gan y disgwylir y canlyniad heddiw. Mae merch Vitek, Krista, sy'n canu rhan fach yn yr opera yn rhedeg i mewn gyda newyddion am yr anhygoel Emilia Marty, cantores opera enwog, a fydd yn ymddangos ar y llwyfan heno.
Cyn gynted ag y mae Kolenaty yn dychwelyd o'r llys mae Emilia Marty yn ymddangos, gan ddangos diddordeb yn achos Gregor vs Prus. Mae Kolenaty yn amlinellu'r achos iddi – mae Joseph Ferdinand Prus wedi gadael ei ystâd i Ferdinand Gregor, a oedd yn fachgen ifanc ar y pryd. Roedd wedi cadarnhau hyn ar lafar i brifathro ysgol y bachgen, ond doedd dim ewyllys ysgrifenedig. Cafodd yr etifeddiaeth ei herio ar unwaith gan ail gefnder Ferdinand Prus, sef Emmerich Prus Zabrze-Pinski, y mae ei ddisgynyddion bellach yn byw ar ystâd broffidiol Loukov. Mae'n ymddangos bod dyfarniad wedi’i wneud o’r diwedd yn yr achos etifeddiaeth sy'n cael ei herio'n danbaid, a hynny o blaid teulu Prus. Fodd bynnag, mae Emilia Marty yn datgelu mai Ferdinand Gregor oedd mab anghyfreithlon 'Pepi' Prus, ac mae hi'n rhannu ei gwybodaeth ryfeddol am ddigwyddiadau'r gorffennol yn ymwneud ag Ellian MacGregor, meistres Pepi. Mae hi'n eu cyfeirio at Ewyllys anhysbys sydd wedi'i chuddio yn nesg Jaroslav Prus, perchennog presennol yr ystâd.
Wedi rhywfaint o betruso, aiff Kolenaty i chwilio am yr ewyllys. Mae Gregor wrth ei fodd ac wedi'i hudo'n llwyr gan Marty, ac yn cynnig y byd iddi. Mae hi'n gofyn iddo am hen ddogfen sydd wedi’ hysgrifennu mewn Groeg y mae hi'n credu sy'n cael ei chadw gyda'r Ewyllys. Mae Kolenaty yn dychwelyd yn fuddugoliaethus gyda’r Barwn Prus wrth ei gynffon, sy'n gofyn am ddogfen ysgrifenedig sy'n profi'r ffaith mai Ferdinand Gregor yw pwy mae Marty’n ei ddweud ydyw mewn gwirionedd. Mae Marty yn addo dod o hyd i'r prawf.
ACT II
Ar ôl perfformiad buddugoliaethus mae edmygwyr Emilia Marty yn aros amdani gefn llwyfan gyda thuswau o flodau. Mab Prus, Janek, yw cariad Krista, ond buan iawn y mae yntau hefyd wedi’i swyno gan Marty, ynghyd â Gregor, Jaroslav Prus, a'r ecsentrig Iarll Hauk-Sendorf sy'n honni bod Marty yr un ffunud â’i feistres Eugenia Montez tua hanner can mlynedd yn ôl yn Sbaen.
Mae Vitek yn gofyn i Marty arwyddo llun i Krista, mae Gregor yn ceisio ennill ffafr Marty ac mae Prus yn ei herio ynghylch llythrennau blaen ei henw E M, gan eu bod yn sefyll am Ellian MacGregor, neu Elina Makropulos, yn ogystal ag Emilia Marty.
Wedi iddi anfon yr holl ddynion i ffwrdd, mae Marty yn ceisio darbwyllo Janek i gael gafael ar y ddogfen Roeg, ond mae ei dad yn rhoi stop ar hynny ac yna'n cytuno i ddod â’r ddogfen i Marty ei hun, os gwnaiff hi dreulio'r noson gydag ef.
EGWYL
ACT III
Mae'r Barwn Prus wedi treulio'r noson gydag Emilia Marty yn ei hystafell yn y gwesty. Mae'n ei chyhuddo o fod yn oeraidd ac yn ddi-deimlad, ond yn anfoddog mae'n rhoi'r ddogfen iddi. Mae'r newyddion am farwolaeth Janek yn torri ar eu traws.
Mae Kolenaty, Gregor, Vitek a Krista yn cyrraedd ac, ynghyd â Prus, yn croesholi Emilia Marty am ei gorffennol, gan ei chyhuddo o ffugio. Mae Emilia Marty yn adrodd ei hanes: fe’i ganed yn 1585 gyda’r enw Elina Makropulos ac roedd ei thad yn feddyg yn llys Rudolf II. Roedd yr ymerawdwr eisiau aros yn ifanc am byth gan fynnu bod Hieronymus Makropulos yn dyfeisio diod sy’n gallu ymestyn bywyd. Ar ôl gwneud hynny, mynnodd yr ymerawdwr bod y ddiod yn cael ei phrofi ar Elina gyntaf, a oedd yn 16 oed ar y pryd. Mae Emilia/Elina bellach wedi byw am dros 300 mlynedd gan newid ei henw a'i hunaniaeth droeon, ond mae hi wastad wedi cadw'r llythrennau enw E M. Mae angen iddi gymryd y fformiwla eto i aros yn fyw, ond yn hytrach mae'n derbyn ei marwoldeb o'r diwedd.