The Shoemaker
Archived: 2022/2023Trosolwg
Mae bob cam yn adrodd stori
Mae The Shoemaker yn stori bwerus am wytnwch, dygnwch, pŵer, a thosturi gyda pherthnasedd diamser.
Mae Isabella yn ddygn yn gweithio ar siapio, pwytho a chydosod esgidiau ar gyfer pobl sydd wedi penderfynu gadael eu gwlad am ddyfodol gwahanol. Gan adael storm o gasineb, anghyfiawnder, gormes a rhyfel, mae cyfres o unigolion yn teithio oddi ar y llwybr arferol yn y gobaith o ddarganfod diogelwch, cydraddoldeb a rhyddid. Ond pan maent yn cyrraedd y tir a addawyd, daw wyneb yn wyneb â Brenin anhapus, ac maent yn sylweddoli’n fuan nad yw eu trafferthion ar ben eto.
Mae cyfuniad cyffrous o ddylanwadau Lladin Americanaidd, Persiaidd a cherddoriaeth glasurol Orllewinol yn plethu gyda’i gilydd i adeiladu ar yr adrodd stori, gan dywys y gynulleidfa drwy’r perfformiad sefyll hwn.
Sioe wefreiddiol a fydd yn hoelio eich sylw.
Mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd a Fio
Cefnogir gan Pobl Trust
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau yn Gymraeg a Saesneg
Perfformiad sefyll
Seddi hygyrch ar gael ar gais
Synopsis
ACT I
Un tro, sydd amser maith yn ôl ac eto’n gyfredol, mae crydd o’r enw Isabella yn creu esgidiau ar gyfer pobl sydd angen mynd ar deithiau anodd. Pan mae Thandi yn cyrraedd ei siop, yn torri ei chalon am orfod gadael ei gwlad, mae Isabella yn rhoi'r esgidiau a'r hyder iddi gymryd y cam cyntaf yn ei bywyd newydd yn nheyrnas gyfagos Belotho. Yn y cyfamser, ym Melotho, mae Roberto, teithiwr sydd wedi cyrraedd y deyrnas yn ddiweddar, yn gwisgo pâr o esgidiau nodweddiadol Isabella, yn cael ei gyflwyno gerbron y Brenin Duncan. Yn gyfnewid am fywyd newydd, mae Roberto'n cyfaddef wrth y Brenin mai Isabella oedd wedi creu ei esgidiau, ac mae'n dweud wrtho lle mae hi'n byw. Mae'r Brenin, sy'n awyddus i atal rhagor o deithwyr rhag cyrraedd y deyrnas, yn anfon ei farchogion Safin a Kholout i ddod o hyd i Isabella. Mae Safin a Kholout yn ymweld ag Isabella, yn ei harestio hi, ac yn chwalu ei siop.
ACT ll
Wrth iddynt deithio i Felotho, mae Isabella'n canu am golli ei siop a'r ffaith y bydd yn parhau i frwydro dros yr hyn mae hi'n ei gredu. Maent yn cwrdd â phobl eraill sy'n gwneud teithiau heriol, ac yn clywed eu hanesion ar hyd y ffordd. Yn ôl ym Melotho, mae'r Brenin Duncan yn datgelu ei atgasedd at y teithwyr sy'n ceisio lloches a bywydau newydd yn ei deyrnas, ac yna'n taflu Isabella i'r carchar.
ACT lll
O'i chell, mae Isabella'n gweddïo. Mewn rhan arall o'r castell, mae Safin yn sylweddoli ei fod wedi gwneud cam. Wedi dysgu o hanesion y teithwyr ar eu taith, mae'n gwybod nad yw'n gallu cefnogi ffyrdd gwahaniaethol y Brenin Duncan mwyach. Yn ôl yn y carchar, mae Isabella'n teimlo'n drech ac wedi'i llethu, mae'r teithwyr eraill sydd wedi'u carcharu'n canu am bwysigrwydd y gofal a'r gobaith roedd Isabella wedi'i roi iddynt. Pan mae Safin yn dod i mewn, er mwyn rhyddhau Isabella, mae'n dod yn amlwg nad oes llawer o werth i ryddid unigol pan nad yw pobl eraill yn rhydd.