The Pied Piper of Hamelin & The Crab That Played With The Sea Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman
Archived: 2022/2023Trosolwg
Bil dwbl difyr, gydag addewid wrth ei galon
Ymgollwch eich hun yn sain dros 80 o leisiau ifanc wrth i Opera Ieuenctid WNO ddod ynghyd i gyflwyno eu sioe arddangos ddiweddaraf.
Gyda chyffyrddiad o’r goruwchnaturiol, bach o ddychan a llwyth o anhrefn, dilynwch hynt a helynt The Pied Piper of Hamelin wrth iddo ddefnyddio’i bib hud i gael gwared ar holl lygod mawr y dref. Ond, pan mae addewid yn cael ei dorri, mae hapusrwydd y dref mewn perygl wrth i’r pibydd dalu'r pwyth yn ôl. Mae’r gerddoriaeth ddarluniadol a’r jigs hiraethus yn arwain yn berffaith at The Crab That Played With The Sea, sy'n seiliedig ar Just So Stories Rudyard Kipling. Profwch y môr a’i donnau a thrawsnewidiad cranc enfawr trafferthus i granc bychan gwylaidd.
Wedi’i gyfarwyddo gan Angharad Lee ac yn cynnwys phypedwaith creadigol ac ensemble bychan o offerynwyr, mae’r set wedi’i hysbrydoli gan wersylloedd ieuenctid Llangrannog a Glan-Llyn, a bywiogrwydd safleoedd chwarae plant.
Mae WNO yn cydnabod rhodd hael y diweddar David Seligman a’r Rhodd Philippa a David Seligman.
Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan The Gibbs Charitable Trust, The Thistle Trust, a The Boris Karloff Charitable Foundation.
Cefnogir Rhaglen Datblygu Talent WNO gan the Bateman Family Charitable Trust a'r Kirby Laing Foundation.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Perfformir yn Stiwdio Weston
Synopsis
The Pied Piper of Hamelin
Mae’r fersiwn hon o The Pied Piper of Hamelin yn seiliedig ar gerdd Robert Browning a gyhoeddwyd yn 1842.
Mae’r libretto yn defnyddio’r gerdd wreiddiol i adrodd stori’r clasur enwog hwn.
Mae cerddor llawn dirgelwch mewn dillad siec melyn a choch yn cynnig achub tref ganoloesol Hamelin rhag pla o lygod mawr gyda’i ddawn chwarae pib hudolus. Mae’n cadw at ei air - ond mae Maer barus y dref yn parhau i geisio’i dwyllo rhag talu ei ffi gytunedig, ac mae’r Piper yn talu’r pwyth yn ôl drwy hudo plant y dref i ffwrdd.
Moeswers y stori hon? Cadwch at eich gair.
The Crab That Played With The Sea
Yn seiliedig ar Just So Stories gan Rudyard Kipling, mae’r opera hyfryd hon yn ei hanfod yn ymdrin â’r syniad o unigolyddiaeth, a beth mae hynny’n ei olygu mewn perthynas â’r byd ehangach.
Gan fod y cranc yn awyddus i fod yn hynod annibynnol, mae’n anwybyddu’r gwersi a’r rheolau a roddwyd iddynt gan y Dewin Hynaf (crëwr y Byd) i wrando ar ‘ddyn’ a’i ufuddhau. Gan ddilyn trywydd ei hun, mae’r cranc yn dod yn arweinydd y moroedd ac yn herio’r Dewin Hynaf. Yn gweld hyn, mae’r Dewin yn cosbi’r cranc drwy dynnu ei gragen.
Wrth ei gwraidd, mae’r opera yn ymdrin â beth mae’n ei olygu i aros yn unigolyn wrth geisio peidio ag amharu ar yr un pryd ar drefn naturiol y Byd.