Ainadamar Osvaldo Golijov
Archived: 2023/2024Trosolwg
Beth fyddech chi’n ei aberthu er mwyn rhyddid?
Ffynnon hynafol ger Granada yw Ainadamar, gair Arabeg sy’n golygu ‘Ffynnon o Ddagrau’, lle yn 1936, cafodd y bardd a’r dramodydd o Sbaen, Federico García Lorca, oedd wedi’i alw’n ‘sosialydd hoyw’ gan y milisia Ffalanchaidd, ei ddienyddio’n greulon yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Mae opera Golijov sydd wedi ennill dwy wobr Grammy yn ail-ddychmygu bywyd Lorca trwy ôl-fflachiau o atgofion gan ei awen a’i gydweithiwr, yr actores Margarita Xirgu, sydd erbyn hyn yn ei munudau olaf yn Wrwgwái yn 1969, wrth iddi geisio pasio gobeithion ac angerdd ei chenhedlaeth ymlaen i’w myfyriwr, Nuria.
Mae Ainadamar yn addo sioe wefreiddiol gan y coreograffydd clodwiw sydd wedi ennill gwobr Olivier, Deborah Colker (Seremoni Gemau Olympaidd Rio 2016; Cirque du Soleil). Dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf yn y byd operatig, yn sedd y cyfarwyddwr.
Mae’r canlyniad yn galeidosgop trawiadol o gerddoriaeth, dawns a theatr lle mae fflamenco yn cwrdd ag opera trwy ganu Sbaenaidd traddodiadol a chaneuon operatig godidog, i gyd wedi’u britho â ffrwydradau rhythmig, sonig a barddol. Mae Ainadamar yn eich gwahodd i brofi opera fel nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen.
The Guardianfiercely evocative
The Timesthrumming with intensity and energy
Archebu rhaglen
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Mae cynyrchiadau a chomisiunau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation. Daw cefnogaeth cynhrychu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Cefnogir gan Dunard Fund a Rhoddwyr WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Sbaeneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Cyd-gynhyrchiad rhwng
Opera Ventures, Scottish Opera, Detroit Opera, The Metropolitan Opera
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Cyflwyniad
Am ddiwrnod trist oedd hi yng Ngranada; Dechreuodd y cerrig grio...
Gair Arabeg sy'n golygu ‘ffynnon ddagrau’ yw Ainadamar. Mae'n un o’r enwau ar ffynnon naturiol yn y bryniau uwchben Granada, sef dinas yn Andalwsia yn ne Sbaen. Dyma lle y llofruddiwyd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca ym 1936.
Roedd Margarita Xirgu yn actores Sbaenaidd flaenllaw a ffrind a chydweithiwr artistig Lorca a threuliodd ei gyrfa yn portreadu Mariana Pineda yn nrama Lorca a oedd yn dwyn yr enw hwnnw. Merthyr gwleidyddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Pineda, a gafodd ei ddienyddio am wnïo baner chwyldroadol yn gwrthwynebu cyfundrefn unbenaethol Sbaen gyda'r slogan 'Cydraddoldeb, Rhyddid a Chyfraith' wedi brodio arni. Y ddrama Mariana Pineda oedd llwyddiant theatrig cyntaf Lorca ac mae’n llythyr caru at fenyw sy'n dilyn ei daliadau i’r eithaf, gan ddwyn i gof liw a barddoniaeth Andalwsia ac yn enwedig Granada gan Lorca ei hun. Gofynnodd Lorca i Xirgu chwarae rhan Pineda yn y ddrama am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1927, yn y Teatre Goya yn Barcelona gyda golygfeydd a gwisgoedd wedi’u cynllunio gan gyfaill agos Lorca, yr artist swrrealaidd Salvador Dalí.
Fe wnaeth Xirgu ffoi o Sbaen ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, ond gwrthododd Lorca adael gyda hi. Arweiniodd ei gredoau rhyddfrydol a’i gyfunrywiaeth agored at ei farwolaeth dan law y grŵp ffasgaidd Falange, a sefydlwyd gan fab y cyn-unben y Cadfridog Primo de Rivera.
Cysegrodd Xirgu weddill ei hoes i chwarae Mariana Pineda ac i gadw geiriau ac etifeddiaeth Lorca yn fyw.
Crynodeb
Adroddir stori Ainadamar drwy atgofion Margarita Xirguo mewn cyfres o ôl-fflachiadau, wrth i'r gorffennol ymdreiddio i'r presennol.
Ar ddechrau’r opera, mae Margarita yn paratoi unwaith eto i fynd ar y llwyfan fel Mariana Pineda tra mae grŵp o actorion ifanc yn canu'r faled agoriadol. Mae'n cofio gwychder Lorca ac yn cyfleu hynny i'w myfyriwr ifanc Nuria, gan gofio cwrdd â Lorca mewn bar ym Madrid, pan ddisgrifiodd y ddrama iddi am y tro cyntaf. Roedd Lorca yn eilunaddoli Pineda, a gellid gweld ei cherflun o'i ystafell wely yng nghartref y teulu yng Ngranada. Terfir ar yr atgof gan y ffasgydd Falangist Ramon Ruiz Alonso, yn darlledu dros radio'r wladwriaeth y bydd ei blaid yn dileu unrhyw arlliw o chwyldro.
Mae Rhyfel Cartref Sbaen ar droed. Mae Margarita yn ymbil ar Lorca i ymuno â'i chwmni theatr yng Nghiwba, ond mae'n gwrthod ac yn aros yng Ngranada. Mae Margarita yn beio ei hun am dynged Lorca, gan na allai argyhoeddi ei ffrind ifanc delfrydol i gefnu ar Sbaen. Yn atgofion Margarita, mae'n canu am ei breuddwyd o ganfod rhyddid yng Nghiwba, ond mae Lorca yn mynnu bod yn rhaid iddo weld ac ysgrifennu am ddioddefaint ei wlad ar y baricêd.
Mae Margarita Xirgu yn marw. Yn y presennol, mae'n mynnu perfformio stori Pineda unwaith yn rhagor - dywed wrth Nuria fod actor yn byw am eiliad yn unig, ond ni fydd y syniad o ryddid byth yn marw. Mae darlun o Lorca yn torri ar ei thraws. Mae'n diolch i Margarita am anfarwoli ei ysbryd ar y llwyfan, yng nghalonnau ei myfyrwyr, ac i’r byd.