Così fan tutte Mozart
Archived: 2023/2024Trosolwg
Beth mae cariad yn eich dysgu chi?
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eich cymryd chi yn ôl i’r ysgol gyda chynhyrchiad newydd sbon o opera gomig Mozart, Così fan tutte aka Yr Ysgol i Gariadon, wedi’i gyfarwyddo gan Max Hoehn (The Consul). Yn y stori hon am aeddfedu, mae pedwar disgybl chweched dosbarth yn darganfod y gall disgyn mewn cariad fod yn anhygoel, yn lletchwith ac yn gymhleth.
Mae'r myfyrwyr yn cael gwers werthfawr am gariad, bywyd a rhyddid wrth i’w hathro eu cynnwys mewn arbrawf cyfrinachol. Gyda pheth o gerddoriaeth fwyaf hudolus Mozart yn gefndir, cânt eu herio i ailfeddwl am eu hunaniaeth eu hunain a’u perthnasau gyda’i gilydd wrth iddynt wynebu cyfres o sefyllfaoedd doniol wedi’u cynllunio i dwyllo.
Archebu rhaglen
Archwiliwch tu ôl i'r llenni
Mae cynyrchiadau a chomisiunau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation. Daw cefnogaeth cynhyrychu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Cefnogir gan Dunard Fund a Rhoddwyr WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma.
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Act Un
Yn Yr Ysgol i Gariadon, mae Don Alfonso yn benderfynol o addysgu ei ddisgyblion ifanc, Ferrando a Guglielmo, am bynciau perthnasau a ffyddlondeb. Mae’r bechgyn yn credu bod eu cariadon yn berffaith ym mhob ffordd, ac yn gwrthod credu y gallen nhw fod yn anffyddlon. Mae Don Alfonso’n mynnu nad oes modd ymddiried mewn merched, yn union fel natur ddynol. Mae’n betio ei fod yn gallu profi ei bwynt. Mae’r bechgyn yn cytuno i chwarae’r gêm yn ôl rheolau Alfonso, ac maen nhw’n hyderus mai nhw fydd yn ennill.
Nes ymlaen, mae dwy chwaer, Fiordiligi (cariad Guglielmo) a Dorabella (cariad Ferrando) yn brolio pa mor ddeniadol mae eu cariadon. Mae Don Alfonso’n ymddangos yn annisgwyl i rannu newyddion ofnadwy bod yn rhaid i Ferrando a Guglielmo adael ar unwaith. Mae’r bechgyn yn ymddangos i ffarwelio â Fiordiligi a Dorabella.
Mae’r fenyw ginio, Despina, yn camu i’r golwg, ac yn gweld mor drist mae’r merched ar ôl i’w cariadon adael. Mae’n rhoi darlith syfrdanol iddyn nhw ynghylch mor dwyllodrus yw dynion, gan eu hannog i wneud y mwyaf o’u rhyddid.
Mae Alfonso’n llwgrwobrwyo Despina i’w helpu â’i gynllun i ddinistrio delfrydau’r cariadon ifanc hyn. Mae’n ei chyflwyno i ddau dramorwr, sef Guglielmo a Ferrando mewn cuddwisg.
Mae’r chwiorydd yn cwrdd â’r newydd-ddyfodiaid. Dydyn nhw ddim yn adnabod eu cariadon. Pan fydd y tramorwyr hyn yn trio eu lwc, mae’r merched yn eu gwrthod. Pan fydd y bechgyn yn herio Alfonso i gyfaddef ei fod wedi colli, mae’n mynnu nad yw’r gêm ar ben.
Mae Fiordiligi a Dorabella yn sylwi mor gyflym mae eu bywydau wedi newid mewn diwrnod. Mae’r ddau dramorwr yn torri ar eu traws, gan honni eu bod wedi gwenwyno eu hunain. Mae pawb yn mynd i banig, ac mae Alfonso’n mynd i chwilio am feddyg. Mae Despina’n dod i’r adwy, mewn cuddwisg fel iachawr seicig. Mae Fiordiligi a Dorabella yn mynnu bod yn rhaid achub bywydau’r bechgyn. Ar ôl i’r argyfwng basio ac wedi i’r ddau esgus dod yn ôl i’w pethau. Unwaith eto, mae Fiordiligi a Dorabella yn eu gwrthod.
Act Dau
Mae Despina’n herio’r chwiorydd i fod yn fwy anturus a rhydd. Mae meddyliau Fiordiligi yn mynd yn ôl at eu cariadon gwreiddiol. Mae Dorabella yn fwy parod i gymryd cyngor Despina. Yn y pen draw, maen nhw’n cytuno i gwrdd â’r dieithriaid unwaith eto - am ychydig o hwyl. Mae gan y ddwy eu ffefryn - sef cariad y llall.
Mae’r bechgyn yn canu serenâd i’r merched ac yn addo ymddwyn yn fwy parchus. Mae dau gysylltiad agos yn datblygu. Mae gwreichion yn tasgu rhwng Dorabella a Guglielmo ac mae un peth yn arwain at y llall. Ar y llaw arall, mae Fiordiligi yn dal i wrthod Ferrando. Mae’n cael ei thynnu rhwng ei theimladau am ei chariad a’r dieithryn newydd deniadol yma.
Mae Don Alfonso yn gweld bod ei ddamcaniaeth wedi’i chadarnhau, a bod naïfrwydd y bechgyn yn amlwg. Mae Guglielmo a Ferrando wedi’u llethu’n emosiynol ar ôl y profiad. Mae Alfonso’n cynnig mai priodas yw’r ateb gorau i’r sefyllfa.
Mae seremoni briodas ddwbl yn cael ei pharatoi. Mae Fiordiligi a Dorabella yn barod i briodi eu cariadon newydd. Mae Despina’n esgus bod yn notari ac yn cyflwyno’r cytundebau priodas. Mae’r cyplau’n eu llofnodi, ac yna mae Don Alfonso yn cyhoeddi bod cyn-gariadon y merched yn dychwelyd.
Mae Guglielmo a Ferrando yn datgelu pwy ydyn nhw go iawn. Mae Dorabella a Fiordiligi yn gofyn am eu maddeuant. Mae’r bechgyn yn maddau, ac yn addo peidio â’u hamau eto. Mae Despina’n gandryll ei bod wedi’i thwyllo gan guddwisgoedd y bechgyn a dod yn rhan o gynllwyn Alfonso.